Skip page header and navigation

Tajîn Twrci

Tajîn Twrci

Pryd cynnes ac egsotig ar gyfer y gaeaf, mae'r tajîn hwn yn naws gwych ar gyfer bwyd dros ben y Nadolig.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr+
A plate of vibrant turkey tagine served with white rice and peas

Cynhwysion

Cig coes twrci ffres oddi ar yr asgwrn, wedi'i dorri'n ddarnau bach
Mae'r rysáit hon yn gweithio'n berffaith gyda chig wedi'i rewi. Edrychwch beth sydd gennych yn eich rhewgell a chofiwch ddadmer y cig yn drylwyr cyn ei goginio.
1 pupur coch
1 courgette
250ml o stoc cyw iâr (1⁄2 ciwb stoc)
2 dun o domatos wedi'u torri
1 tun o ffacbys
2 winwnsyn, wedi'u torri
1 llwy de sinsir ffres, wedi'i dorri
2 ewin garlleg, wedi'i fathru
2 lwy fwrdd o goriander ffres
Gallech hefyd ddefnyddio coriander mâl (2 llwy de) neu wedi'i rewi (2 lwy fwrdd) yn lle hynny
4 llwy de o ras el hanout
1 lemwn wedi'i gadw*
2 lwy fwrdd o olew

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch yr olew mewn padell fawr ac ychwanegu’r winwnsyn wedi’i dorri, y sinsir ffres wedi’i dorri a’r garlleg. Coginiwch yn ysgafn am 5 munud.

  2. Ychwanegwch y cig twrci a’i goginio’n ysgafn am 10 munud.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  3. Ychwanegwch y pupur coch, y courgette, y tomatos tun, y ffacbys, y lemwn wedi’i gadw*, y ras el hanout, y stoc cyw iâr a’r coriander.

  4. Mudferwch am 30 - 45 munud ac yna ychwanegu blas a pharhau i fudferwi am 30 munud arall fel bod y blasau’n trwytho.

  5. *Tynnwch halen dros ben o’r lemwn ac, wrth ei ddefnyddio am y tro cyntaf, ychwanegwch mewn chwarteri i’ch dysgl, gan flasu tan i chi gael y blas dymunol.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.