Skip page header and navigation

Pasta tiwna

Pasta tiwna

Mae'r pryd Pasta Tiwna hwn yn wych ar gyfer amser swper ac mae'n defnyddio pasta sych, tiwna tun a thomatos wedi'u torri. Gan ychwanegu ychydig o gynhwysion ffres, gallwch fwydo teulu o 4 am lai na 60c y pen!
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
a bowl of golden pasta mixed with tuna flakes and topped with a herb garnish

Cynhwysion

2 lwy fwrdd o olew olewydd
1 winwnsyn, wedi'i dorri
2 ewin garlleg, wedi'u torri'n fân
Tun 400g o domatos wedi'u torri'n fân gyda pherlysiau
Ychwanegwch unrhyw domatos ffres sydd angen eu defnyddio.
½ llwy de o bowdr tsili
1 llwy de o siwgr
250g bwa pasta (neu ddewis arall)
Tun 100g o diwna, wedi'i ddraenio
Llond llaw o ddail basil
Mae croeso i chi ddefnyddio perlysiau sych neu ffres eraill sydd gennych eisoes – mae perlysiau cymysg sych yn gweithio cystal

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch yr olew mewn padell, a choginio’r winwns am ychydig funudau tan eu bod yn dechrau meddalu ac yna ychwanegu’r garlleg, y tomatos, y tsili a’r siwgr i mewn. Ychwanegwch halen a phupur a berwi’r cymysgedd. Rhowch dro da iddo, yna troi’r gwres i lawr a’i fudferwi am 5 munud.

  2. Yn y cyfamser, gallwch ferwi sosban fawr o ddŵr hallt ac yna ychwanegu’r pasta a’i goginio yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn a rhoi’r tiwna yn y saws ynghyd â thipyn o’r dŵr pasta a’i gynhesu drwyddo. Draeniwch y pasta, ei roi’n ôl yn y badell a throi’r saws a’r dail basil i mewn. Gweinwch gydag ychydig o bupur.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.