Skip page header and navigation

Gwiriwch dymheredd eich oergell

Gwiriwch dymheredd eich oergell

Pa bryd wnaethoch chi wirio tymheredd eich oergell ddiwethaf? Rydym yn genedl o ddau hanner - dim ond ein hanner ni sy’n gwybod y dylid cadw ein hoergell yn oerach na 5˚C. Mewn gwirionedd, mae tymheredd cyfartalog oergelloedd y Deyrnas Unedig wedi’i osod o leiaf 2°C yn rhy gynnes!  

Dysgwch sut i wirio tymheredd eich oergell a chadw’ch bwyd yn fwy ffres yn hirach.

Teitl Oerwch eich Oergell gyda logo oergell

Sut i newid tymheredd eich oergell

Y tymheredd delfrydol ar gyfer oergell yw rhwng 0-5°C. Gallai addasu tymheredd eich oergell gadw eich bwyd yn ffres am dri diwrnod yn hirach nag arfer.

Dechreuwch drwy ddewis brand eich oergell o’r rhestr a chwilio am ddeialau tymheredd eich oergell chi ar y dudalen, ac fe welwch gyfarwyddiadau syml ar gyfer gwirio a newid tymheredd eich oergell. Cam hawdd ar gyfer arbed bwyd, amser ac arian i chi!
fridges

Cael mwy o werth o’ch bwyd

Wyddoch chi fod afalau’n para’n hirach o gael eu storio yn yr oergell? Mae’r un peth yn wir am aeron a ffrwythau sitrws, hefyd! Ond, cadwch eich bananas yn y bowlen ffrwythau gan eu bod yn gallu peri i ffrwythau eraill aeddfedu’n rhy sydyn.

Mae ein canllawiau bwyd a rysetiau’n cynnwys llawer o tips defnyddiol i’ch helpu i gadw bwyd yn fwy ffres yn hirach: ewch i fwrw golwg, a rhowch gynnig ar newid syml heddiw. 

Mwy o haciau a tips bwyd gwych

P’un ai hoffech ddysgu sut i fanteisio i’r eithaf ar eich oergell i gadw eich bwyd mor ffres â phosib, neu os hoffech wirio beth mae labeli dyddiad bwydydd yn ei olygu go iawn, rydym ni yma i’ch helpu.

Blog category
  •  Storio bwyd
  •  Cael trefn ar y gegin
  •  Arbed amser ac arian

Saith ffordd o gadw’r bwyd yn eich oergell yn ffres yn hirach

Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff, , 3 munud o waith darllen

Wyddoch chi y gall newid tymheredd eich oergell i’w gadw rhwng 0-5°C gadw eich bwyd yn fwy ffres yn hirach? A dweud y gwir, gall ychwanegu tri diwrnod at oes eich bwyd! Dyma un o’r pethau y gallwch eu gwneud i fanteisio i’r eithaf ar eich oergell i gadw bwyd.

Llaw wen yn troi deial mewn oergell, a’r deial wedi’i labelu ‘Off, 1, 2, 3’
Blog category
  •  Arbed amser ac arian
  •  Siopa bwyd

Naw ffordd o arbed arian wrth siopa bwyd

Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff, , 5 munud o waith darllen

Dyma naw ffordd o helpu i ysgafnhau’r baich ar eich waled pan gyrhaeddwch y til… ac achub bwyd rhag y bin, hefyd!

Llaw yn dal twbyn siocled poeth ac yn ei roi mewn cwpwrdd yn y gegin

Bwyd: A yw labeli dyddiad bwyd yn peri dryswch mawr i chi? Ewch i fwrw golwg ar ein canllaw byr i ddysgu beth mae'r gwahanol labeli yn ei olygu a sut y gallai hyn arbed arian i chi wrth siopa bwyd.

Bys yn pwyntio at dop can bwyd yn dangos dyddiad ar ei orau cyn