Skip page header and navigation

Datganiad Hygyrchedd

Accessibility statement

Cynhelir y wefan hon gan WRAP. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu ddefnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau disgleirdeb a ffontiau;
  • chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin;
  • llywio’r rhan fwyaf o’r cymhwysiad gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig;
  • llywio’r rhan fwyaf o’r cymhwysiad gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais; a
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r cymhwysiad gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Hefyd, rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae AbilityNet yn cynnwys cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

 

Adborth a manylion cyswllt

Os ydych angen yr wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, cysylltwch â:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu yn ôl â chi.

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: Daniel Neal, Rheolwr Digidol, WRAP.