Skip page header and navigation

Cyw iâr (neu dwrci) gaeafol wedi’i frwysio

Cyw iâr (neu dwrci) gaeafol wedi’i frwysio

Mae'r blasau gwin cynnes y mae'r cyw iâr wedi'i goginio ynddo yn flasus wedi'i weini â thatws stwnsh cennin hufennog neu datws pob neu gallech hyd yn oed ei weini â chwscws. Gweinwch gyda llysiau tymhorol neu fresych coch wedi’i frwysio.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr+
Dysgl rostio yn llawn cyw iâr euraidd wedi’i frwysio a llysiau wedi’u torri

Cynhwysion

Potel o win coch 75cl
1 bag sbeis gwin cynnes
neu defnyddiwch 1 pric o sinamon, 2 clof, 4 hadau coriander, nytmeg bach a 2 sbeis i gyd wedi'u lapio mewn bag mwslin
2 satswma wedi'u golchi a'u sgwrio gyda 4 clof yr un
2 lwy fwrdd o siwgr crai tywyll
12 clun neu goesau cyw iâr neu dwrci
Halen a phupur
1 llwy fwrdd olew
1 winwnsyn, wedi'i blicio a'i dorri'n fân
3 ewin garlleg, wedi'u plicio a'u torri'n fân
1 ½ llwy fwrdd o flawd plaen
100g llugaeron sych (neu ffres)
300ml o stoc cyw iâr

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Rhowch y gwin, bag sbeis gwin cynnes, a siwgr mewn padell tan ei fod yn berwi ac yn byrlymu tan fod y cymysgedd wedi lleihau, tua 10 -15 munud. Ychwanegwch y satswma gyda’r clof.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Ychwanegwch flas ar groen y cyw iâr gyda halen a phupur, ac yna cynhesu’r olew a ffrio’r darnau cyw iâr mewn padell fawr tan eu bod yn euraidd ac yna ychwanegu’r winwns, garlleg a’i goginio am 5 munud arall.

  3. Ychwanegwch y blawd a’i goginio, gan ei droi, am 1 munud cyn ychwanegu’r gwin wedi’i leihau a’r stoc a’i goginio tan fod y cymysgedd yn berwi, yna ei orchuddio a’i goginio ar 200°C (400°F) marc 6 am tua 1 awr, dylai’r saws fod fel grefi.

  4. Dadorchuddiwch y caserol a throi’r llugaeron i mewn a’i goginio am 30 munud arall. Tynnwch y satswmas a’u rhoi yn y bin compost ac yna gweini’r caserol ar unwaith.

  5. I’w rewi: Gwnewch y rysáit hyd at ddiwedd cam 3 ac yna ei oeri a’i roi mewn cynhwysydd sy’n addas ar gyfer y rhewgell, ei labelu a’i rewi am hyd at 3 mis.



    I’w ddefnyddio: Dadmer dros nos, ei roi mewn dysgl gaserol gwrthfflam, a’i goginio’n araf tan ei fod yn berwi. Ychwanegwch y llugaeron a lleihau’r gwres tan ei fod yn mudferwi’n ysgafn a’i goginio am 30 munud neu tan fydd wedi cynhesu.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Hyd at 3 mis
Ble i’w storio
Rhewi
Aildwymo
Dylech ei ddadmer dros nos. Coginiwch ar yr hob am 30 munud

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.