Skip page header and navigation

Tro-ffrio briwgig cyflym

Tro-ffrio briwgig cyflym

Y tro-ffrio cyflymaf, hawsaf! Browniwch eich briwgig, tro-ffrio'r llysiau a bydd y pryd hwn yn barod mewn llai na 30 munud.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Powlen o nwdls blasus wedi’u cymysgu â llysiau oren a gwyrdd lliwgar a briwgig

Cynhwysion

300g o friwgig e.e. cyw iâr, twrci, porc, cig eidion, Quorn
Mae'n gweithio'n berffaith gyda chig wedi'i rewi. Edrychwch beth sydd gennych yn eich rhewgell a chofiwch ddadmer y cig yn drylwyr cyn ei goginio.
2 ewin garlleg, wedi'i fathru
2 neu 3 o lysiau e.e. winwns, shibwns, moron, brocoli, pupur, winwns, courgette, pys melys, sbigoglys, seleri, bresych pak choi ac ati - wedi'i dorri'n fân
1 llwy de o bowdr 5 sbeis Tsieineaidd (neu binsiad pob un o bowdr tsili neu fflochiau, sinsir, coriander)
2 lwy fwrdd o saws soi
2 lwy fwrdd o sesame neu olew llysiau ar gyfer ffrio
1 pecyn o nwdls wyau sych, wedi'u coginio yn unol â chyfarwyddiadau'r pecyn

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Ychwanegwch ½ yr olew i badell fawr neu badell ffrio a brownio’r briwgig a’i roi i un ochr.

  3. Ychwanegwch weddill yr olew i’r badell gyda’r garlleg, sbeisys a llysiau wedi’u torri.

  4. Tro-ffrio am ychydig funudau, yna ychwanegu’r saws soi. Cyfunwch y cymysgedd tro-ffrio gyda’r nwdls wedi’u coginio a’i weini ar unwaith.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.