Skip page header and navigation

Ein planed, eich bwyd

Ein planed, eich bwyd

Sut mae fy mwyd i’n effeithio ar newid hinsawdd? Dewch inni edrych yn fanylach.

Pridd mewn dysgl wen sy’n cael ei dal yn nwylo rhywun

Beth yw newid hinsawdd?

Yn ei hanfod, mae newid hinsawdd yn golygu newidiadau hirdymor i batrymau tywydd a thymheredd y Ddaear

Mae’r adnoddau a ddefnyddiwn i gynnal ein bywydau modern: i gynhesu ein cartrefi, i ddilladu ein hunain, i deithio i ble mae angen inni fod, ac i gael bwyd ar ein platiau – yn cyfrannu at ryddhau nwyon tŷ gwydr i atmosffer y Ddaear. Mae’r nwyon tŷ gwydr hyn – carbon deuocsid yn un allweddol – yn rhyddhau gwres ac yn newid tymheredd, tywydd a hinsawdd y Ddaear.

Mae’r tymereddau cynyddol hyn yn arwain at godi lefel y môr, llifogydd, tanau gwyllt, iâ’r pegynau’n ymdoddi a digwyddiadau tywydd eithafol sy’n rhoi cynefinoedd, bywyd gwyllt a phobl mewn perygl. 

Bri-eiriau newid hinsawdd

Beth yw ystyr y bri-eiriau hyn? 

  • Nwyon tŷ gwydr

    Nwyon yw’r rhain – fel carbon deuocsid a methan – sy’n rhyddhau gwres i’n hatmosffer. Mae hyn wedyn yn cynhesu tymheredd y Ddaear.

  • Allyriadau carbon neu nwyon tŷ gwydr

    Mae hyn yn disgrifio faint o nwyon a gaiff eu rhyddhau i’r atmosffer – er enghraifft, trwy ddefnyddio tanwydd ffosil sy’n rhyddhau carbon deuocsid i’r atmosffer, neu phan fo gwastraff bwyd yn pydru ac yn rhyddhau nwy methan.

  • Ôl-troed carbon

    Mae hyn yn disgrifio faint o garbon deuocsid a gaiff ei ryddhau i’r atmosffer gan weithgareddau bob ddydd. Wrth drafod bwyd, gallai’r rhain olygu cynhyrchu ein bwyd, a chludo ein bwyd. (Cewch ddysgu mwy am hyn isod!)

  • Gwastraff bwyd

    Bwyd a gaiff ei wastraffu, ei golli neu na chaiff ei fwyta ar hyd y gadwyn gyflenwi gyfan – o’r fferm, i’w gynhyrchu, i archfarchnadoedd ac yn ein cartrefi.

36 miliwn

o dunelli o allyriadau nwyon tŷ gwydr gellir atal drwy achub bwyd o’r bin yn ein cartrefi yn y deurnas unedig

Sut mae fy mwyd i’n bwydo newid hinsawdd?

Efallai eich bod wedi clywed bod bwyd yn cael effaith amgylcheddol enfawr. Ond sut mae ambell i fanana oraeddfed neu hen dorth o fara yn cael eu taflu i’r bin yn gwneud niwed i’n planed? Dewch inni edrych yn fanylach ar yr effaith y mae taflu bwyd yn ei chael ar ein planed.

Wrth edrych ar pam mae gwastraff bwyd yn niweidio’r amgylchedd, mae’n bwysig edrych ar gylch oes gyfan ein bwyd: o’r fferm, i’r fforc, i’r bin. Mae pob cam yn siwrne ein bwyd yn defnyddio adnoddau gan y ddaear ac yn cynhyrchu allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac felly’n cyfrannu at newid hinsawdd.

Os gallwn wneud yn siŵr mai dim ond y bwyd y byddwn yn ei fwyta sy’n cyrraedd ein cartrefi, ac na fydd unrhyw fwyd da yn mynd i’r bin, gallem arbed yr allyriadau a fyddai’n cael eu creu o gynhyrchu’r bwyd hwnnw rhag cael eu creu yn y lle cyntaf.

Mae sicrhau eich bod yn defnyddio’r holl fwyd a brynwch a pheidio â gadael i’r un tamaid ohono fynd yn wastraff yn ffordd allweddol o leihau eich ôl-troed carbon a helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Allyriadau carbon a’n bwyd 

Dilynwch siwrne allyriadau carbon ein bwyd hyd at ein platiau::

  • Y tir a ddefnyddiwn i dyfu ein bwyd

    Gallai hyn amrywio o ddatgoedwigo (tynnu coed sy’n tynnu carbon allan o’r atmosffer) i ffermwr yn aredig cae yn barod i blannu cnydau (sy’n rhyddhau nwyon tŷ gwydr).

  • Tyfu ein bwyd

    Gwrteithiau, porthiant anifeiliaid, tractorau ac offer ffermio, cynaeafu, cludo: mae llawer iawn o ymdrech, amser ac adnoddau ynghlwm wrth gynhyrchu ein bwyd, ar draws y byd.

  • Prosesu ein bwyd

    Er enghraifft, troi tatws yn sglodion popty neu wenith yn fara, mewn ffatrïoedd.

  • Cael ein bwydydd i’n siopau, marchnadoedd a’n drws ffrynt

    P’un a ydych chi’n siopa ar-lein, yn yr archfarchnad neu’ch marchnad leol: mae’r bwyd rydych chi’n ei brynu wedi’i gludo yno – o bob rhan o’r byd yn ôl pob tebyg.

  • Paratoi bwyd gartref

    Mae coginio ein bwyd hefyd yn cael effaith: tanwydd ein hoergelloedd a rhewgelloedd, poptai a microdonau.

  • Taflu bwyd

    Pan fyddwn ni’n taflu bwyd i ffwrdd, mae’n pydru ac yn rhyddhau methan, sef nwy tŷ gwydr, i’r atmosffer: boed hynny yn ein bin compost, cadi bwyd neu safle tirlenwi. Mae gan fethan bŵer cynhesu sydd fwy nag 80 gwaith y pŵer cynhesu sy’n perthyn i garbon deuocsid.

    Yn y Deyrnas Unedig, mae llai nag 1% o’r allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â bwyd yn dod o’r cam terfynol hwn: pan fydd yn cyrraedd y bin. Ond, mae swm enfawr o nwyon tŷ gwydr eisoes wedi’u rhyddhau yn ystod siwrne bwyd o’r fferm i’ch plât – dim ond iddo fynd i’r bin yn y pen draw.

Dysgwch fwy am wastraff bwyd a newid hinsawdd

Mae nifer enfawr o sefydliadau ym mhedwar ban byd sy’n chwarae eu rhan i fynd i’r afael â newid hinsawdd, a helpu i wneud gwastraff bwyd yn hen hanes. 

Dyma ddolenni i’ch arwain at adnoddau gwych a fydd yn eich helpu i ddysgu mwy.

Gwnewch wahaniaeth ac arbed bwyd

Gadewch inni fod yn realistig: weithiau rydym mor brysur nes bod meddwl am sut i arbed bwyd gartref yn disgyn i waelod ein rhestr blaenoriaethau. Yn hytrach na cheisio gweddnewid eich arferion bwyd dros nos, dewch inni weithredu gyda’n gilydd fesul tamaid.

Ffermwr yn dal bresych a phannas dan wenu

Bydd mabwysiadu ambell i arfer bwyd syml yn eich arferion wythnosol arferol yn tynnu llawer o straen o’ch arferion bwyd, gan arbed amser ac arian i chi – a hynny wrth siopa a phan fyddwch gartref. Bydd hefyd yn sicrhau bod eich bwyd yn cael ei fwyta, nid ei daflu!

Mam a phlentyn yn coginio gyda’i gilydd, y fam yn rhoi dysgl yn y ffwrn

Mae ein canllaw defnyddiol yn cynnig tips ar gyfer arbed amser yn y gegin a’r archfarchnad, gan arbed arian ichi hefyd. Allwch chi fforddio peidio ei ddarllen?

Dyn gwyn yn gwisgo sbectol yn rhoi cynhwysydd o fwyd dros ben mewn microdon