Skip page header and navigation

Pei Groegaidd caws, sbigoglys a ham

Pei Groegaidd caws, sbigoglys a ham

Rysáit berffaith ar gyfer defnyddio unrhyw gaws dros ben.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr
a plate of spinace and cheese filo pastry pie

Cynhwysion

75g o fenyn
200g o winwns, wedi'u plicio a'u torri
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns, cennin neu nionod dodwy yn gweithio'n dda hefyd.
2 ewin garlleg, wedi'u plicio a'u torri
½ llwy de o rosmari sych
4 llwy fwrdd o crème fraîche
175g o does ffilo
450g o ddail sbigoglys wedi rhewi ac wedi’u dadmer
Halen
Pupur du mân
½ llwy de o nytmeg
200g o unrhyw gaws dros ben
Ffeta, Stilton, Brie, Camembert, caws gafr, Cheddar
175g o ham wedi'i goginio a’i sleisio
Ar gyfer fersiwn llysieuol, rhowch 225g o fadarch brown wedi'u sleisio yn lle’r ham, wedi'u ffrio mewn menyn tan eu bod yn euraidd a’u gadael i oeri cyn cymysgu gyda'r caws.
Wy wedi'i guro, i ychwanegu sglein
1 llwy fwrdd o hadau sesame
Salad tomato ac olewydd i weini

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Twymwch hanner y menyn mewn padell ffrio fawr a choginio’r winwns a’r garlleg dros wres ysgafn gyda’r rhosmari am 10-12 munud da neu tan eu bod yn feddal iawn ac yna ychwanegu’r crème fraîche i mewn, a’i dynnu oddi ar y gwres a’i oeri.

  2. Tra bod y winwns yn coginio, gwasgwch yr hylif o’r sbigoglys a’i droi dros wres isel tan ei fod yn hollol sych ac yna’i dorri’n fras ac ychwanegu blas gyda halen, pupur a nytmeg.

  3. Toddwch weddill y menyn ac iro tun maint 23cm, a 3cm o ddyfnder, a rhoi dalenni o does ffilo ar waelod y tun, gan ei frwsio â menyn rhwng yr haenau a’u gorgyffwrdd ar hap. Ni ddylai fod unrhyw fylchau yn y toes a dylai’r toes dros ben hongian dros ochrau’r tun.



    (Cofiwch gadw’r ffilo wedi’i orchuddio â haenen lynu wrth leinio’r tun, gan fod ffilo’n sychu’n gyflym iawn pan fydd yn agored i’r aer ac yna bydd yn anodd gweithio ag ef).

  4. Gosodwch yr ham wedi’i sleisio (neu’r madarch) ar draws gwaelod y toes ac yna rhoi’r sbigoglys oer, ac yna’r winwns ar ei ben, yna’r caws wedi’i friwsioni a lapio’r toes drosto i amgáu’r llenwad cyn ei frwsio ag wy a gwasgaru hadau sesame ar ei ben.

  5. Rhowch glawr pobi yn y ffwrn i gynhesu cyn rhoi’r pei ar ei ben a’i goginio ar 190°C (375°F) marc 5 am tua 45 munud, gorchuddiwch yn ysgafn â ffoil ar ôl tua 20 munud fel nad yw’n rhy frown a’i oeri am 10 munud cyn ei weini.



    Gweinwch gyda salad tomato ac olewydd.

  6. I rewi: Oerwch y pei yn gyflym trwy ei dynnu o unrhyw ddysgl boeth. Unwaith y bydd yn oer, dylid ei rannu yn ddognau a’i lapio’n dda iawn gyda haenen lynu a ffoil cyn labelu’r cynnwys a’i roi yn y rhewgell am hyd at 3 mis.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Rhowch y pryd yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.