Skip page header and navigation

Pwmpen sbeislyd, briwgig a thatws

Pwmpen sbeislyd, briwgig a thatws

Mae Sascha yn Hugh Grierson Organic, fferm deuluol yn Swydd Perth, yn dangos i ni sut i roi sbeis i’r briwgig a’r thatws hynny ar Noson Calan Gaeaf.
Gan Sascha
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 40-60 munud
a plate of spiced pumpkin slices, mince and a layer of creamy mash

Cynhwysion

1 winwnsyn
1 llwy fwrdd o fenyn
250g o bwmpen wedi'i phlicio a'i thorri
500g o friwgig cig oen
Mae'r rysáit hon yn gweithio'n berffaith gyda chig wedi'i rewi. Edrychwch beth sydd gennych yn eich rhewgell a cofiwch ddadmer y cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Llond llaw o cêl wedi'i dorri
Sudd a chroen hanner lemwn
Dŵr i'w orchuddio
Halen a phupur i ychwanegu blas
1 llwy fwrdd o iogwrt naturiol
Pupur du
Ffenigrig
Pupur Jamaica
Clof
Nytmeg
Powdr sinamon
Powdr sinsir

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. I wneud cymysgedd Libanus 7 sbeis, cymysgwch 1 llwy de o bob un o’r pupur du, ffenigrig, pupur Jamaica, ewin, nytmeg, powdr sinamon a phowdr sinsir.

  3. Toddwch y menyn mewn padell fawr ar wres canolig.

  4. Torrwch y winwnsyn a’r bwmpen a’u hychwanegu at y sosban, a chwyswch y llysiau gan fod yn ofalus i beidio â gadael iddynt frownio.

  5. Browniwch y briwgig dros wres uchel mewn padell ffrio ar wahân, gan dorri’r cig â fforc. Ychwanegwch y cig i’r llysiau meddal a’u cymysgu’n dda.

  6. Ychwanegwch y cymysgedd sbeis, ei gymysgu’n dda a’i adael i goginio am ychydig funudau. Ychwanegwch groen y lemwn a’u cymysgu eto ac yna ychwanegu digon o ddŵr i’w orchuddio, halen a phupur i ychwanegu blas, yna mudferwi’r gymysgedd am 30-40 munud.

  7. Pum munud cyn diwedd y coginio ychwanegwch y sudd lemwn a’r iogwrt naturiol i’w wneud yn ffres neis, yna ei weini gyda thatws stwnsh ar gyfer naws trawsddiwylliannol.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.