Skip page header and navigation

Bolognese corbys

Bolognese corbys

Perffaith ar gyfer llysieuwyr (ac addas i ddiet figan os ydych chi'n peidio â chynnwys y caws) mae'r Bolognese corbys hwn yn opsiwn gwych i swper ar gyfer y penwythnos am £1.40 y pen yn unig. Rydym ni'n addo na fydd cigysyddion hyd yn oed yn gweld colli'r cig!
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr+
Pentwr blasus o gorbys wedi’u cymysgu â saws bolognese

Cynhwysion

1 llwy fwrdd o olew olewydd
1 winwnsyn
1 foronen
1 coesyn seleri
2 ewin garlleg, wedi'i fathru
250g o gorbys coch sych
2 x tun 400g o domatos wedi'u torri
1 llwy fwrdd o biwrî tomato
1 llwy de o oregano sych
1 llwy de o deim sych
2 ddeilen llawryf
500ml o stoc llysiau
250g o sbageti
Caws Parma neu gaws caled llysieuol/figan, wedi'i gratio, i weini

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Torrwch eich winwnsyn, moronen a seleri yn fân a chynhesu’r olew mewn sosban fawr ac yna ychwanegu’r llysiau wedi’u torri a’r garlleg. Coginiwch yn ysgafn am 15-20 munud tan fod popeth wedi meddalu. Ychwanegwch y corbys, y ddau dun o domatos wedi’u torri, y piwrî tomato, y perlysiau a’r stoc a’i fudferwi, yna ei goginio am 40-50 munud tan fod y corbys yn frau ac yn sawrus ac yna ychwanegu ychydig o ddŵr i mewn os oes angen ac ychwanegu blas.

  2. Cadwch ef ar wres isel tra byddwch yn coginio’r sbageti, gan ddilyn cyfarwyddiadau’r pecyn ac yna gweini’r Bolognese gyda sbageti a digon o gaws.

  3. Gellir oeri saws a’i storio yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod neu yn y rhewgell am hyd at 3 mis. Pa rydych am ei fwyta ar ôl ei rewi, mae’n bwysig ei ddadmer dros nos ar dymheredd ystafell a’i ailgynhesu’n ysgafn.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.