Skip page header and navigation

Cyw iâr rhost gyda halen a phupur mewn hambwrdd pobi

Cyw iâr rhost gyda halen a phupur mewn hambwrdd pobi

Ni fu cinio rhost erioed mor syml! Yn sicr ni fydd gennych chi fynydd o olchi llestri i'w wneud ychwaith gan mai dim ond un hambwrdd pobi sydd ei angen arnoch. Yr hyn a gewch fodd bynnag, yw cyw iâr hyfryd gyda chroen crimp a llysiau wedi'u rhostio i berffeithrwydd – y cyfan fydd angen ei wneud yw ychwanegu grefi. Mae hwn mor hawdd gan mai'r cyfan sydd angen i chi ei wneud mewn gwirionedd yw torri rhai llysiau!
Gan Becky Excell
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr+
a traybake containing a crispy whole roast chicken surrounded by a variety of roasted bright vegetables

Cynhwysion

4 darn o gluniau cyw iâr, ar yr asgwrn gyda’r croen
2 pannas
3 moronen
3 taten ganolig
Olew olewydd wedi'i drwytho â garlleg
Halen a phupur
Persli i weini (dewisol)

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 200°C/180°C (ffan).

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Paratowch yr holl lysiau trwy blicio’ch pannas. Does dim angen plicio’ch moron na’ch tatws! Nesaf torrwch eich moron yn dalpiau 2cm, torri’r pannas yn eu hanner os nad ydyn nhw’n rhy drwchus a thorri eich tatws.

  3. Cydiwch mewn clawr pobi a thaenu olew olewydd wedi’i drwytho â garlleg drosto i gyd a rhoi eich darnau cyw iâr ar yr hambwrdd ac ychwanegu blas gyda halen a phupur. Trowch nhw drosodd ychydig o weithiau i sicrhau eu bod wedi’u gorchuddio’n llwyr yn yr olew ac ychwanegu blas unwaith eto gyda halen a phupur, gan eu gadael ar yr ochr gyda’r croen i fyny.

  4. Ychwanegwch eich holl lysiau wedi’u torri i’r hambwrdd o amgylch y cyw iâr a’u taflu o gwmpas yr hambwrdd ychydig fel eu bod nhw hefyd wedi’u gorchuddio â’r olew. Yn olaf, arllwyswch ychydig o olew dros bopeth i sicrhau bod popeth wedi’i orchuddio’n dda.

  5. Rhowch eich hambwrdd pobi yn y ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw am 55 munud.

  6. Ar ôl 30 munud, tynnwch yr hambwrdd o’r ffwrn a gadael ochr y  cyw iâr gyda’r croen i fyny, ond trowch y llysiau i gyd drosodd a’u rhoi yn ôl yn y ffwrn am 25 munud arall, neu tan fod croen y cyw iâr yn grimp ac yn euraidd.

  7. Tynnwch yr hambwrdd o’r ffwrn a’i weini gyda grefi (heb glwten os oes angen) a phwdinau Swydd Efrog cartref heb glwten.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.