Skip page header and navigation

Telerau ac amodau

Telerau ac amodau

Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych chi’n mynegi eich caniatâd i’r Telerau ac Amodau hyn. Os na chytunwch â’r Telerau ac Amodau hyn, peidiwch â defnyddio’r wefan na lawrlwytho a defnyddio unrhyw ddeunyddiau o’r wefan, os gwelwch yn dda.

Mae’r Telerau ac Amodau hyn hefyd yn cynnwys Ymwadiad Ebost WRAP.

1. Telerau Cymwys

1.1 Mae’r wefan hon (y “Wefan”) yn eiddo i’r Waste and Resources Action Programme, elusen gofrestredig yn y DU rhif 1159512, sy’n gwmni preifat cyfyngedig trwy warant wedi’i gofrestru yn Lloegr rhif. 4125764, ac mae ei swyddfa gofrestredig yn: Second floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH (“WRAP”).

1.2 Mae defnyddio’r Wefan a lawrlwytho a defnyddio unrhyw frandio a nodau masnach sydd ar gael i’w lawrlwytho o Adnoddau WRAP yma https://wrap.org.uk/resources (y “Brandio”) yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn, sy’n dod i rym ar unwaith y tro cyntaf y defnyddiwch y Wefan. Ceidw WRAP yr hawl i newid y Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg trwy bostio newidiadau ar-lein.

1.3 Chi sy’n gyfrifol am adolygu gwybodaeth sy’n cael ei rhannu ar-lein yn rheolaidd i gael gwybod yn amserol am unrhyw newidiadau. Os byddwch yn parhau i ddefnyddio’r Wefan ar ôl i newidiadau gael eu rhannu, golyga hyn eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn fel y’u haddaswyd gan y newidiadau a rannwyd.

1.4 Os oes unrhyw wrthdaro rhwng y Telerau ac Amodau hyn a/neu delerau penodol sy’n ymddangos rhywle arall ar y Wefan sy’n ymwneud â deunydd penodol, yna’r diwethaf fydd drechaf.

2. Defnyddio Deunyddiau a Brandio

2.1 Oni nodwyd fel arall, mae cynnwys y Wefan, gan gynnwys yr enwau, y delweddau a’r logos sy’n nodi WRAP a’i gynhyrchion a’i wasanaethau, a’r Brandio, yn eiddo i WRAP ac maent wedi’u diogelu, heb gyfyngiad, fel gwaith hawlfraint, a/neu nodau masnach cofrestredig neu anghofrestredig, a dim ond yn unol â 2.3 isod y gellir eu defnyddio.

2.2 Rhaid i chi, a’r busnes/sefydliad rydych chi’n ei gynrychioli, gofrestru gyda WRAP a chreu cyfrif er mwyn defnyddio rhai o wasanaethau WRAP gan gynnwys lawrlwytho a defnyddio’r Brandio. Gallwch greu eich cyfrif WRAP eich hun a/neu gyfrif ar gyfer eich busnes/sefydliad yma https://accounts.wrap.org.uk Eich cyfrifoldeb chi yw cadw’ch manylion chi a manylion eich busnes/sefydliad yn gyfredol ar y proffil defnyddiwr. Yn y Telerau ac Amodau hyn, bydd cyfeiriadau atoch ‘chi’ yn cyfeirio at y defnyddiwr unigol yn ogystal â’r busnes/sefydliad a gynrychiolir gan y defnyddiwr unigol neu sy’n ddefnyddiwr cofrestredig ei hun.

2.3 Yn amodol bob amser ar 1.4, gellir copïo neu lawrlwytho deunydd a gynhyrchir gan WRAP ar y Wefan (nad yw’n cynnwys, er mwyn osgoi amheuaeth, deunydd ar unrhyw wefan trydydd parti y rhoddir dolen ar ei chyfer) a’r Brandio, at eich defnydd eich hun yn y Deyrnas Unedig, ar yr amod (i) bod yn rhaid i ddefnyddio’r Brandio gydymffurfio’n llwyr â’r canllawiau brand perthnasol, sydd ar gael i’w lawrlwytho o Lyfrgell Adnoddau WRAP yma https://wrap.org.uk/resources pan fyddant yn cael eu diweddaru o bryd i’w gilydd, a (ii) ni chewch, heblaw gyda chydsyniad ysgrifenedig WRAP ymlaen llaw ac wrth gydymffurfio’n llawn ag unrhyw delerau y gall WRAP ofyn amdanynt:

  • 2.3.1 cynnal unrhyw ddeunydd neu Frandio neu amrywiad ohono ar unrhyw wefan; neu 

  • 2.3.2 addasu, newid neu greu gwaith deilliadol o unrhyw ran o’r deunydd neu’r Brandio; neu

  • 2.3.3 defnyddio’r deunydd neu’r Brandio mewn unrhyw fodd masnachol gan gynnwys ymgorffori unrhyw ran o Frandio WRAP ar unrhyw nwyddau neu eitemau hyrwyddo

2.4 Dim ond deiliad cyfrif WRAP gaiff lawrlwytho’r Brandio.

2.5 Mae’r Telerau ac Amodau hyn yn caniatáu defnyddio’r deunyddiau a’r Brandio yn y Deyrnas Unedig yn unig, ac at y dibenion a nodir yn unig. Os ydych chi’n dymuno defnyddio’r deunyddiau neu’r Brandio at ddibenion eraill neu y tu allan i’r Deyrnas Unedig, cysylltwch â WRAP i drefnu trwydded benodol i’w defnyddio, os gwelwch yn dda.

2.6 Os byddwch yn lawrlwytho meddalwedd o’r Wefan, bydd y feddalwedd, yn cynnwys unrhyw ffeiliau, delweddau sydd wedi’u hymgorffori yn y feddalwedd a’r data sy’n cyd-fynd â’r feddalwedd (gyda’i gilydd, “y feddalwedd”) neu a gynhyrchir ganddynt, yn destun trwydded benodol i’w rhoi i chi gan WRAP. Nid yw WRAP yn trosglwyddo teitl y Feddalwedd i chi. Bydd WRAP yn cadw teitl llawn a chyflawn y Feddalwedd a’r holl hawliau eiddo deallusol yn y Feddalwedd. Ni chewch ailddosbarthu, gwerthu, dadgrynhoi, teilwra o chwith, na datgymalu’r Feddalwedd.

3. Atebolrwydd

3.1 Nid yw WRAP yn gwarantu y bydd y Wefan yn ddi-dor nac yn rhydd o wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, nac y bydd y Wefan na’r gweinydd sy’n ei gynnal yn rhydd o firysau na bygiau.

3.2 Mae’r Wefan a’r wybodaeth, enwau, delweddau, lluniau, logos ac eiconau ynglŷn â neu’n ymwneud â WRAP, ei gynhyrchion a’i wasanaethau (neu i gynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti), yn cael ei ddarparu “FEL Y MAENT” ac ar sail “FEL Y BÔNT AR GAEL” heb unrhyw gynrychiolaeth nac ardystiad wedi’i wneud a heb warant o unrhyw fath p’un a yw wedi’i ddatgan neu’n ymhlyg.

3.3 Er bod WRAP yn gwneud pob ymdrech i warantu cywirdeb y wybodaeth a gynhwysir ar y Wefan, nid yw’n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw wallau ac mae ymwelwyr â’r Wefan sy’n dibynnu ar y wybodaeth hon yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain.

3.4 Nid yw WRAP yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau y rhoddir dolenni ar eu cyfer ac nid yw o reidrwydd yn cymeradwyo’r safbwyntiau a fynegir ynddynt. Ni ddylid ystyried fod darparu dolen iddynt yn golygu cefnogaeth o unrhyw fath.

3.5 Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau ac Amodau hyn yn gweithredu nac yn cael ei ddehongli er mwyn eithrio neu gyfyngu ar:

3.5.1 unrhyw warant neu amod a awgrymir gan statud pe baech yn delio fel “defnyddiwr” fel y’i diffinnir gan adran 2 o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Mewn achos o’r fath nid yw’r telerau ac amodau hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol; neu

  • 3.5.2 atebolrwydd WRAP am farwolaeth neu niwed personol a achosir oherwydd esgeulustod WRAP neu ei wasanaethwyr, gweithwyr neu asiantau.

3.6 Ac eithrio fel y nodir yn 3.5, ni fydd WRAP yn atebol am unrhyw ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngiad, ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw ddifrod o gwbl sy’n deillio o ddefnyddio neu fethu defnyddio, data, neu elw, boed hynny wrth weithredu contract, esgeulustod neu gamweddau eraill, sy’n deillio o ddefnyddio’r Wefan neu mewn cysylltiad â’i defnyddio.

3.7 Dan unrhyw amgylchiadau, ni fydd cyfanswm atebolrwydd WRAP i chi am yr holl ddifrod, colledion ac achosion gweithredu (boed mewn contract ai peidio (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, esgeulustod) neu fel arall) yn fwy na’r costau i chi, os cost o gwbl, am ddefnyddio’r Wefan.

4. Eich Cyfraniadau

4.1 Os gwahoddir chi i gyflwyno unrhyw gyfraniad trwy’r Wefan (gan gynnwys heb gyfyngiad unrhyw destun, graffeg, fideo neu sain) mae’n ofynnol i chi, trwy gyflwyno rhywbeth o’r fath, roi hawl barhaus, ddi-freindal, anghynhwysol, y gellir ei is-drwyddedu i WRAP a thrwydded i ddefnyddio, atgynhyrchu, addasu, newid, cyhoeddi, cyfieithu, creu gweithiau deilliadol ohono, dosbarthu, perfformio, chwarae, ac arfer yr holl hawliau hawlfraint a chyhoeddusrwydd mewn perthynas ag unrhyw waith o’r fath ledled y byd a/neu ei ymgorffori mewn gweithiau eraill mewn unrhyw gyfrwng sy’n hysbys nawr neu a gaiff ei ddatblygu’n ddiweddarach am dymor llawn unrhyw hawliau a all fodoli mewn cynnwys o’r fath, yn gyson â’r cyfyngiadau preifatrwydd a nodir ym Mholisi Preifatrwydd WRAP. Os nad ydych am roi hawliau o’r fath i WRAP, awgrymir na ddylech gyflwyno’ch cyfraniad trwy’r Wefan.

4.2 Trwy gyflwyno’ch cyfraniad i’r Wefan, rydych chi hefyd yn:

  • 4.2.1 gwarantu mai eich gwaith gwreiddiol eich hun yw cyfraniad o’r fath a bod gennych hawl i sicrhau ei fod ar gael i WRAP at yr holl ddibenion a nodwyd uchod; ac yn

  • 4.2.2 indemnio WRAP yn erbyn yr holl ffioedd cyfreithiol, iawndal a threuliau eraill y gallai WRAP eu hysgwyddo o ganlyniad i dorri’r warant uchod; ac yn

  • 4.2.3 cytuno i hepgor unrhyw hawliau moesol yn eich cyfraniad at ddibenion ei gyflwyno i’r Wefan a’i gyhoeddi a’r dibenion eraill a bennir uchod; ac yn

  • 4.2.4 cydnabod a chytuno y gall defnyddwyr ei gopïo neu ei lawrlwytho yn unol â 2.3.

5. Defnyddio’r Wefan

Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r Wefan at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw’n torri hawliau, yn cyfyngu ar nac yn atal unrhyw drydydd parti rhag defnyddio a mwynhau’r Wefan. Mae cyfyngiad neu ataliad o’r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon, neu a allai aflonyddu neu achosi trallod neu anghyfleustra i unrhyw berson a throsglwyddo cynnwys anweddus neu dramgwyddus neu darfu ar lif deialog arferol o fewn y Wefan.

6. Terfynu Hawliau Defnyddio

6.1 Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn parhau i fod yn berthnasol i’r defnydd a wnewch o’r Wefan a’ch mynediad at y deunyddiau a’ch Brandio ar y Wefan a’u defnydd oni bai a hyd nes y bydd WRAP yn eich hysbysu bod eich mynediad wedi’i derfynu a bod eich cyfrif wedi’i gau. Ceidw WRAP yr hawl i gau eich cyfrif a rhwystro’ch mynediad i’r Wefan a’r deunyddiau a’r Brandio ar y Wefan ar unrhyw adeg yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, ond dim ond os yw’n ystyried eich bod wedi methu â chydymffurfio â’r Telerau ac Amodau hyn yn sylweddol y mae’n debygol o wneud hynny.

6.2 Ar ôl cau eich cyfrif WRAP, rhaid i chi roi’r gorau i ddefnyddio’r holl ddeunyddiau a Brandio a gafwyd o’r Wefan, a phob copi ohono, ar unwaith, os bydd WRAP yn gofyn i chi wneud hynny.

7. Toradwyedd

Os penderfynir fod unrhyw un o’r Telerau ac Amodau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu’n anorfodadwy fel arall oherwydd deddfau unrhyw wladwriaeth neu wlad y bwriedir i’r Telerau ac Amodau hyn fod yn effeithiol ynddynt, yna i’r graddau, ac o fewn yr awdurdodaeth, y mae’r telerau neu’r amodau yn anghyfreithlon, yn annilys neu’n anorfodadwy, bydd yn cael ei dorri a’i ddileu o’r Telerau ac Amodau hyn a bydd y telerau ac amodau sy’n weddill yn goroesi yn parhau i fod mewn grym ac effaith lawn ac yn parhau i fod yn rhwymol ac yn orfodadwy.

8. Awdurdodaeth

8.1 Caiff y Wefan ei rheoli a’i gweithredu gan WRAP o’i swyddfeydd yn y Deyrnas Unedig. Nid yw WRAP yn gwneud unrhyw gynrychiolaeth bod deunyddiau ar y Wefan yn briodol nac ar gael i’w defnyddio mewn lleoliadau eraill. Mae’r rhai sy’n dewis cyrchu’r Wefan o leoliadau eraill yn gwneud hynny ar eu liwt eu hunain ac yn gyfrifol am gydymffurfio â deddfau lleol, os yw deddfau lleol yn berthnasol ac i’r graddau y maent yn berthnasol.

8.2 Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â deddfau Cymru a Lloegr. Bydd anghydfodau sy’n codi o’r Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

9. Ymwadiad Ebost

9.1 Mae cynnwys unrhyw ebost (gan gynnwys atodiadau) a anfonir gan WRAP yn gyfrinachol ac yn destun hawlfraint. Mae unrhyw ebost o’r fath wedi’i fwriadu ar gyfer yr unigolyn neu’r endid y cyfeirir ato yn unig. Os ydych wedi derbyn ebost gan WRAP mewn camgymeriad, cysylltwch â’r anfonwr ar unwaith trwy ateb yr ebost, neu ffonio 01295 819900, i hysbysu’r anfonwr bod yr ebost wedi’i anfon atoch trwy gamgymeriad ac yna ei ddileu (gan gynnwys unrhyw atodiadau) o’ch system. Os nad chi yw derbynnydd bwriadedig yr ebost, gwaherddir yn llwyr ichi ddatgelu, copïo, dosbarthu neu ddefnyddio ei gynnwys.

9.2 Mae WRAP yn defnyddio technoleg gwrthfirws i wirio’r holl negeseuon sy’n mynd allan ond ni all warantu absenoldeb firysau ac nid yw WRAP yn derbyn atebolrwydd am unrhyw firws a gyflwynir gan unrhyw ebost neu unrhyw atodiad ac fe’ch cynghorir i ddefnyddio meddalwedd gwirio firws priodol a chyfredol.

9.3 Ni all WRAP dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb neu gyflawnrwydd cynnwys unrhyw ebost gan ei fod wedi’i drosglwyddo dros rwydwaith cyhoeddus ac nid yw cyfathrebiadau Rhyngrwyd yn ddiogel. Os oes angen dilysu, gofynnwch am gopi caled, os gwelwch yn dda.

9.4 Ac eithrio pan anfonir yr ebost wrth gynnal busnes arferol, barn yr anfonwr unigol yw’r farn a’r safbwyntiau a fynegir mewn unrhyw neges ebost ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn a safbwyntiau WRAP.

9.5 Ceidw WRAP yr hawl i fonitro ebostiau sy’n dod i mewn ac allan yn unol â Rheoliadau Telathrebu (Arfer Busnes Cyfreithlon) (Rhyng-gipio Cyfathrebu) 2000 a/neu at ddibenion rheoli ansawdd a/neu hyfforddiant.

9.6 Anfonir ebostiau at y derbynnydd ar gais, neu mewn ymateb i, ddiddordeb a fynegwyd gan y derbynnydd bwriadedig yng ngweithgareddau WRAP. Mae WRAP yn dymuno cadw’ch gwybodaeth gyswllt at ddibenion cysylltu â chi yn y dyfodol ynghylch gweithgareddau a nodau WRAP. Os nad ydych am i’ch gwybodaeth gyswllt gael ei chadw, gallwch roi gwybod i WRAP trwy anfon ebost at [email protected] gyda’ch cais penodol i optio allan o gysylltiadau o’r fath.