Skip page header and navigation

Tajîn cyw iâr a lemon wedi’i goginio mewn crochan araf

Tajîn cyw iâr a lemon wedi’i goginio mewn crochan araf

Pryd blasus a hawdd i'r teulu – pryd o fwyd gwych ar gyfer defnyddio cyw iâr heb ei goginio dros ben o'ch barbeciw.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 5 awr+
Dysgl o gyw iâr wedi’i bobi gyda lemwn

Cynhwysion

500g o ddarnau o gyw iâr
Llond llaw o flawd plaen
1 llwy fwrdd o olew olewydd
2 ewin o arlleg, wedi'u plicio a'u sleisio
2 winwnsyn, wedi'u plicio a'u sleisio
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns, cennin neu nionod dodwy yn gweithio'n dda hefyd.
1 lemon, wedi'i sleisio
1 tsili coch, wedi'i dorri
Llond llaw o olifau gwyrdd heb eu cerrig
Llond llaw o fricyll sych
1 can o ffacbys, wedi'i ddraenio
1 llwy de o sinamon
1 llwy de sinsir
1 llwy de o gwmin
Halen a phupur i ychwanegu blas
1 ciwb stoc cyw iâr
Coriander ffres i'w roi ar ei ben

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig! Dylid ei ddadmer yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Gorchuddiwch y cyw iâr yn ysgafn mewn blawd a chynhesu’r olew mewn padell ffrio, a ffrio’r cyw iâr a’r garlleg yn y badell tan eu bod ychydig yn frown ar bob ochr ond heb eu coginio drwyddo.

  3. Sleisiwch eich lemon a’ch winwns a rhoi’r holl gynhwysion yn y crochan araf.

  4. Toddwch eich ciwb stoc mewn 600ml o ddŵr cynnes a’i arllwys ar ei ben.

  5. Coginiwch yn isel am 5 awr.

  6. Gweinwch gyda choriander ffres a chwscws.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.