Skip page header and navigation

Patatas bravas gyda naws y DU

Patatas bravas gyda naws y DU

Gwnewch y mwyaf o'ch tatws a chreu'r Patatas Bravas anhygoel yma gyda gwedd Brydeinig arnynt, a ddyfeisiwyd gan Albert Bartlett.
Gan Albert Bartlett
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Powlen fach o Patatas Bravas mewn ciwbiau gyda saws brown ar eu pennau

Cynhwysion

500g o Datws Jersey Royals wedi’u haneru
2 lwy fwrdd o olew olewydd
1 winwnsyn mawr, wedi'i dorri
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns, cennin neu nionod dodwy yn gweithio'n dda hefyd.
2 lwy fwrdd o Saws Brown
1 llwy fwrdd o finegr balsamaidd
3 llwy fwrdd o siytni winwnsyn wedi'i garameleiddio

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 200 ° C Ffan/Nwy 6. Trowch y tatws gydag 1 llwy fwrdd o’r olew a’u coginio mewn tun rhostio am 30-35 munud tan eu bod yn euraidd.

  2. Cynheswch weddill yr olew mewn padell a choginio’r winwnsyn tan ei fod yn feddal ac yn dechrau lliwio.

  3. Ychwanegwch y saws brown, y finegr balsamaidd a siytni a’u mudferwi am 5 munud, gan droi tan fod gennych saws trwchus.

  4. Arllwyswch y saws dros y tatws a’u cymysgu’n dda ac yna eu trosglwyddo i ddysgl weini.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.