Roedd Michael a Savanah yn enillwyr ein cystadleuaeth ysgolion ar thema Calan Gaeaf, 'Peidiwch â Bod ag Ofn Eich Sbarion' mewn partneriaeth â Scottish Business in the Community a Good Family Food.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauTorrwch y sbrowts a’u sleisio’n eu hanner, ar eu hyd drwy’r coesyn.
Berwch y sbrowts am tua 4-5 munud, yna eu draenio a’u rhoi i un ochr.
Mewn dysgl fawr, cymysgwch y pancetta a’r cnau castan gyda’r olew olewydd, yna ychwanegu pinsiad o halen a thro o bupur du.
Ychwanegwch y sbrowts a’u cymysgu tan fod popeth wedi’i orchuddio, yna ei wasgaru ar glawr pobi mawr. Rhostiwch ar 220C/200C ffan am tua 30 munud, neu tan fod y cig moch yn grimp a’r sbrowts yn troi’n euraidd.
A yw’r ffwrn yn orlawn ar Ddydd Nadolig? Os yw lle’n brin, gellir addasu’r rysáit a defnyddio padell ffrio neu badell fawr hefyd. Yn syml, ffriwch y cig moch a’r cnau castan yn yr olew, ychwanegu’r sbrowts wedi’u hanner berwi ac ychwanegu blas, yna eu ffrio ar wres canolig tan eu bod yn grimp ac yn euraidd.n.
Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin.
Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.