Skip page header and navigation

Pitsa cennin a thatws dros ben

Pitsa cennin a thatws dros ben

Os oes gennych chi datws wedi'u coginio dros ben i'w defnyddio, o'r oergell neu'r rhewgell, beth am roi cynnig ar y rysáit flasus a syml hon gan Blas y Tir.
Gan Blas y Tir
Yn gweini 2
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Pizza crwn wedi’i dorri’n chwarteri gyda chennin a thatws dros ben arno

Cynhwysion

175g o flawd rhyg
1 llwy de o bowdr pobi
400g o datws stwnsh dros ben
2 lwy de o berlysiau sych cymysg
150ml o laeth

Awgrym topin

1 llwy fwrdd o biwrî tomato
1 cenhinen, wedi'i sleisio
100g o datws wedi'u berwi a’u sleisio'n denau
50g o gaws Cheddar, wedi'i gratio
Awgrym: Gallwch hefyd ddefnyddio unrhyw gigoedd sydd dros ben ac ychwanegu unrhyw lysiau wedi'u coginio sydd angen eu defnyddio.
Os ydych chi'n defnyddio cig dros ben wedi'i goginio i wneud pitsa – gallwch chi fwyta pitsa oer dros ben a gedwir yn yr oergell y diwrnod canlynol, peidiwch â’i ail gynhesu.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Hidlwch y blawd a’r powdr pobi i ddysgl fawr ac ychwanegu’r tatws a’r perlysiau, gan eu troi i gyfuno cyn ychwanegu’r llaeth i’r cymysgedd sych i ffurfio toes meddal. Trowch ar arwyneb â blawd ysgafn a thylino’n ysgafn i ffurfio pelen o does llyfn.

  2. Cynheswch y ffwrn i 225°C/Marc Nwy 7. Rhowch y toes ar glawr pobi wedi’i iro, gan wasgu’r cymysgedd yn gyfartal i greu gwaelod crwn, ychydig yn fwy trwchus na darn £1. Rhowch y toes yn y popty a’i bobi am 10 munud cyn tynnu’r gwaelod pitsa a lleihau tymheredd y ffwrn i 200°C/400°F/Marc Nwy 6.

  3. Taenwch y piwrî tomato dros y gwaelod, a rhoi’r genhinen wedi’i sleisio, y tatws wedi’u berwi a’r caws wedi’i gratio ar ei ben.

  4. Pobwch y pitsa yn y ffwrn am 8-10 munud arall, nes bydd y caws wedi toddi a’r gwaelod yn grimp.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Torrwch yn dafelli a’i lapio mewn ffoil
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.