Skip page header and navigation

Creision tortila pitsa cyflym

Creision tortila pitsa cyflym

Mae hon yn rysáit dda ar gyfer defnyddio manion o'r oergell, gallech chi roi selsig wedi'i goginio dros ben ar y creision corn ac mae'n wych ar gyfer defnyddio unrhyw gaws dros ben.

Mae hwn yn fyrbryd munud olaf y mae'n well ei wneud ychydig cyn bwyta.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 25
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Platiaid o sglodion tortila crensiog gyda saws tomatos a chaws ar eu pennau

Cynhwysion

Creision tortila
50g o gig wedi'i goginio dros ben fel ham, selsig, salami, Frankfurters, wedi'i sleisio'n denau
50g o gaws caled, wedi'i dorri'n ddarnau bach
Defnyddiwch beth bynnag sydd gennych
5 llwy fwrdd o saws pitsa neu saws pasta

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y gril ymlaen llaw. Rhowch saws pitsa neu saws pasta, tafelli tenau o selsig a darnau bach o gaws ar ben y creision corn.

  2. Trefnwch y cynhwysion ar glawr pobi a’i grilio tan fod y caws yn dechrau meddalu, yna eu gwini a’u bwyta tra eu bod dal yn gynnes. Os ydyn nhw’n dechrau oeri, rhowch nhw o dan y gril i’w hailgynhesu, gan wylio nad ydyn nhw’n llosgi.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Mae’n well ei weini’n ffres. Ail-gynheswch unwaith yn unig o dan y gril tan ei fod yn chwilboeth

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.