Skip page header and navigation

Lasagne corbys coch gydag wyneb hadau pwmpen arswydus

Lasagne corbys coch gydag wyneb hadau pwmpen arswydus

Mae'r rysáit yn defnyddio bolognese Quorn dros ben ond byddai cig yn gweithio'r un mor dda yn dibynnu ar yr hyn sydd gennych yn eich oergell. Mae’r corbys yn ffordd wych o gael gwared ar y dogn sydd dros ben ac mae creu wyneb arswydus gyda hadau pwmpen yn ffordd greadigol o’u defnyddio!
Gan Michael a Savanah, Ysgol Gynradd Granton
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr +
Lasagne ffacbys pwmpen

Cynhwysion

1 swp o Quorn dros ben
Os nad ydych yn llysieuwr, gallech ddefnyddio bolognese briwgig sydd dros ben
Hanner pecyn o ddalennau lasagne
150g o gaws Cheddar neu Parma wedi'i gratio
Cadwch unrhyw Cheddar wedi'i gratio heb ei ddefnyddio yn y rhewgell. Nid oes angen ei ddadmer os ydych chi’n ychwanegu at brydau wedi'u coginio.
50g o hadau pwmpen (wedi'u tostio)
125g o gorbys coch sych neu 235g (pwysau wedi'u draenio) o gorbys tun
Dylid eu coginio yn unol â chyfarwyddiadau'r pecyn neu fe allech chi ddefnyddio corbys tun os ydych chi'n brysur
8 tomatos bach (wedi'u torri yn eu hanner)
200g o gnawd pwmpen (wedi'i goginio a'i stwnshio)
2 lwy fwrdd o flawd plaen
50g o fenyn
1 peint o laeth

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 200°C confensiynol / ffan 180°C.

  2. Berwch y corbys coch am 20 munud mewn dŵr berwedig, yna eu draenio. Os ydych yn defnyddio tun o gorbys yna nid oes angen y cam hwn arnoch.

  3. Ychwanegwch y corbys wedi’u coginio i’r bolognese sydd dros ben a’i gynhesu’n ysgafn mewn padell fach tan ei fod wedi’i gymysgu’n drylwyr. Tynnwch y badell oddi ar y gwres a’i roi i un ochr ac yna ychwanegu’r tomatos bach wedi’u haneru i’r saws.

  4. I wneud y saws gwyn - rhowch sosban ganolig ar wres isel ac ychwanegu’r menyn a’i adael i doddi. Ychwanegwch y blawd a’i droi tan ei fod wedi’i gyfuno’n drylwyr a’i goginio drwodd am ryw funud. Ychwanegwch y llaeth yn araf, gan gymysgu drwy’r amser fel nad yw’n ffurfio lympiau. Os yw’n dalpiog, daliwch ati i gymysgu gyda’r chwisg a’i goginio’n ysgafn tan fod y llaeth wedi cynhesu drwodd a’r saws wedi tewychu ac yna ei dynnu oddi ar y gwres a’i roi i un ochr.

  5. Gosodwch y lasagne mewn dysgl  sgwâr / hirsgwar sy’n addas ar gyfer y ffwrn. Dechreuwch trwy wasgaru haenen o stwnsh pwmpen, yna ei ddilyn gyda haen o gorbys a bolognese ac yna haen o dalennau lasagne. Nesaf, ychwanegwch ychydig o saws gwyn a gwasgaru 1/3 o gaws ar ei ben.

  6. Ailadroddwch y camau uchod tan fod y ddysgl yn llawn a’r holl gynhwysion wedi’u defnyddio (2 - 3 haen).

  7. Create a spooky face on top using pumpkin seeds. Tip - why not try to make a ghost or skeleton or a vampire with the seeds? Finish with a scattering of cheese. Place into a preheated oven for 35-40 minutes until golden and bubbling on top, and cooked right through    Crëwch wyneb arswydus ar ei ben gan ddefnyddio hadau pwmpen. Awgrym - beth am geisio gwneud ysbryd neu sgerbwd neu sugnwr gwaed gyda’r hadau? I orffen, gwasgarwch ychydig o gaws arnynt a’i roi yn y ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw am 35-40 munud tan ei fod yn euraidd ac yn byrlymu, ac wedi coginio drwyddo.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.