Roedd Michael a Savanah yn enillwyr ein cystadleuaeth ysgolion ar thema Calan Gaeaf, 'Peidiwch â Bod ag Ofn Eich Sbarion' mewn partneriaeth â Scottish Business in the Community a Good Family Food.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauCofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Cynheswch y ffwrn i 200°C/Marc Nwy 6.
Torrwch haen denau oddi ar hyd bob taten – mae hyn yn creu sylfaen ar gyfer y broses o’u gwneud yn datws Hasselback. Rhowch y daten i lawr ar ei hochr fflat ac yna, gyda chyllell finiog, torri tri chwarter ffordd drwy’r daten ar ei thraws, gan wneud ar hyd bob taten bob tua ½ cm. Gwnewch hyn i’r tatws i gyd.
Torrwch yr holl berlysiau’n fân a’u rhoi mewn dysgl gyda’r olew a’r sbeisys a brwsio’r tatws gyda’r cymysgedd perlysiau, ac yna gwasgaru halen môr mwg drostynt a’u rhoi yn y badell sgilet.
Pobwch y tatws yn y ffwrn am 50 munud cyn ychwanegu’r darnau o gig moch a’u pobi wedyn am 10 munud ychwanegol.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.