Skip page header and navigation

Risoto cig oen Cymru, berwr y gerddi a chaws Parma

Risoto cig oen Cymru, berwr y gerddi a chaws Parma

Daw’r rysáit risoto cig oen hon gan Hybu Cig Cymru ac mae’n ffordd wych o ddefnyddio unrhyw gig oen sydd dros ben ac ychydig o gynhwysion, mae'n flasus! Gallwch hefyd ychwanegu llysiau sydd wedi dechrau mynd yn hen i'r pryd hwn, er enghraifft, seleri a moron. Torrwch a’u coginio gyda’r winwnsyn yn y rysáit.
Gan Hybu Cig Cymru
Yn gweini 2
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
brown dish with a serving of lamb risotto

Cynhwysion

225g o stêcs coes Cig Oen Cymru heb lawer o fraster, wedi'u torri'n giwbiau bach
1 llwy de o olew olewydd
1 winwnsyn, wedi'i dorri
Cofiwch wirio'ch rhewgell am winwnsyn dros ben y gallech fod wedi'i dorri a'i rewi o'r blaen
150g o reis risoto (Arborio)
600ml o stoc
Gwnewch eich stoc gyda chroen llysiau ar gyfer dewis amgen blasus a maethlon yn lle ciwbiau stoc – ac mae’n rhatach hefyd!
Pupur du
50g o bys siwgr, wedi'u sleisio
50g o bys wedi'u rhewi
Dail berwr y gerddi
Caws Parma

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

  2. Cynheswch olew olewydd mewn sosban a choginio’r ciwbiau cig oen heb lawer o fraster a’r winwnsyn.

  3. Ychwanegwch y reis risoto a’i droi’n drylwyr.

  4. Ychwanegwch y stoc a’i ferwi ac yna ychwanegu blas a’i fudferwi’n ysgafn am tua 30 munud neu tan fod y reis wedi coginio a’r holl hylif wedi’i amsugno. (Ychwanegwch ychydig mwy o stoc i gyflawni’r gweadedd / cysondeb dymunol).

  5. Yn ystod 5 munud olaf yr amser coginio, ychwanegwch y pys melys a’r pys wedi’u rhewi, eu cymysgu a’u coginio tan fod y darnau siwgr yn dechrau toddi.

  6. Ychwanegwch flas a gorffen y pryd gyda llond llaw o ferwr y gerddi a chaws Parma.

  7. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych yn eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur. Yn syml, cofiwch ei ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell am 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.