Skip page header and navigation

Pei pysgod mwg gyda thopin crwst cawslyd

Pei pysgod mwg gyda thopin crwst cawslyd

Dyma bastai bysgod sy’n defnyddio topin crwst nad oes angen ei rolio, dim ond ei gratio!
Gan Caroline Marson
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
Traybake of creamy fish pie topped with crispy mash potato

Cynhwysion

350g o bysgod â chroen, fel cegddu, penfras, hadog neu eog
350g hadog wedi’i gochi heb ei liwio
1 ffiled o fecryll wedi’i gochi wedi'i goginio
225g toes byr parod, bron wedi'i rewi neu wedi'i oeri'n dda
Gall toes cartref fod yn rhy feddal i’w gratio ar gyfer y rysáit hon
450ml o laeth
50g o gaws dros ben fel Cheddar neu Gruyère
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych yn yr oergell
4 wy
1 winwnsyn bach, wedi'i chwarteru
Gellir deisio winwnsyn dros ben a'i rewi mewn cynhwysydd aerglos
25g o fenyn
25g o flawd
2 lwy fwrdd o hufen sur
1 ddeilen llawryf
Halen a phupur du
Pinsiad o nytmeg

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Rhowch y pysgod amrwd mewn padell lydan, ac ychwanegu’r winwnsyn wedi’i chwarteru a’r ddeilen llawryf ac arllwys y llaeth drosto a’i ferwi, lleihau’r gwres a’i fudferwi am tua 5 munud, neu tan fod y pysgod newydd goginio.

  2. Tynnwch y pysgodyn gan ddefnyddio tafell bysgod a’i roi mewn dysgl sy’n addas ar gyfer y ffwrn tua 22cm mewn diamedr. Taflwch y winwnsyn a’r ddeilen llawryf o’r ddysgl a’u rhoi mewn bin compost neu stoc. Rhowch y llaeth i un ochr i’w ddefnyddio yn nes ymlaen.

  3. Rŵan dylech ferwi dŵr mewn sosban fach a berwi’r wyau yn galed; gostwng yr wyau yn ofalus i’r dŵr a’u berwi am 8 munud, yna eu draenio a’u dal o dan ddŵr oer; pliciwch yr wyau, eu torri’n dalpiau a’u gosod ar ben y pysgod.

  4. Torrwch y mecryll mwg yn fflochiau a’i ddosbarthu dros yr wyau a’r pysgod wedi’u coginio.

  5. I wneud y saws; toddwch y menyn mewn padell, cymysgu’r blawd a’i goginio am funud dros wres cymedrol ac yna ychwanegu’r llaeth a ddefnyddiwyd i botsio’r pysgod yn raddol, gan eu curo drwy’r amser, a’u mudferwi am 1-2 funud tan fod gennych saws llyfn, ychydig yn drwchus.

  6. Tynnwch y saws oddi ar y gwres, ychwanegu’r crème fraîche ac ychwanegu blas gyda halen, pupur du a nytmeg ac yna arllwys y saws dros y pysgod a’r wyau.

  7. Cynheswch y ffwrn i 200°C (400°F) marc 6. Gratiwch y toes wedi’i rewi’n drwchus dros ben y bastai bysgod, gwasgaru caws drostynt a’u coginio am tua 25-30 munud neu tan eu bod yn chwilboeth ac mae’r topin yn grimp ac yn euraidd.

  8. I rewi: Cwblhewch hyd at gam 3 ac yna gorchuddio, labelu a rhewi’r gymysgedd am hyd at 3 mis.

    I’w ddefnyddio: Dylid dadmer y gymysgedd dros nos yn yr oergell a chwblhau’r rysáit o gam 4.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.