Skip page header and navigation

Pwdin siocled meddal

Pwdin siocled meddal

Ffordd hawdd, blasus a llawn siocled i achub y pwdin Nadolig hwnnw sydd dros ben rhag mynd i'r bin gan Gogydd Cenedlaethol yr Alban, Gary Maclean.
Gan Gary Maclean
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Pwdin siocled cyfoethog gyda chanol siocled wedi’i doddi, wedi’i weini gyda mefus

Cynhwysion

125g o siocled tywyll 70%
125g o fenyn
150g o siwgr mân
50g o bwdin Nadolig
3 wy mawr
35g o flawd plaen

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Toddwch y menyn yn araf dros wres isel mewn sosban. Unwaith y bydd wedi toddi tynnwch oddi ar y gwres ac ychwanegu’r siocled.

  2. Curwch y wyau a’r siwgr gyda’i gilydd tan eu bod wedi’u cyfuno’n dda, yna ychwanegu’r blawd.

  3. Trowch y ddau gymysgedd gyda’i gilydd a thorri’r pwdin Nadolig i mewn i’r gymysgedd.

  4. Arllwyswch i mewn i fowldiau menyn, yn ddelfrydol dysglau pwdin bach. Pobwch ar 190ºC am 10-12 munud, gan wneud yn siŵr bod y canol yn dal i redeg.

  5. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych yn eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos neu ddysgl wedi'i gorchuddio
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.