Skip page header and navigation

Browni hadau pwmpen

Browni hadau pwmpen

Pa ffordd fwy blasus o ddefnyddio'r hadau o'ch pwmpen Calan Gaeaf? Mae'r rysáit gan John Quigley o Red Onion yn Glasgow yn dangos i chi sut.
Gan John Quigley
Yn gweini 16
Amser Paratoi/Coginio: 30 - 45 munud
Browni hadau pwmpen

Cynhwysion

140g o siocled tywyll, gydag o leiaf 55% o goco, wedi'i dorri'n ddarnau bach
120g o fenyn heb halen
100g o flawd plaen
5 wy
½ coden fanila, hadau yn unig
255g o siwgr brown meddal
15g o hadau pwmpen, wedi’u rinsio a'u gadael i sychu

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Tostiwch yr hadau pwmpen ar glawr pobi am 3-4 munud ar dymheredd o 200˚C/marc nwy 6, a’u rhoi i un ochr i oeri.

  2. Rhowch y menyn a hanner y siocled tywyll mewn dysgl a’u toddi gyda’i gilydd gan ddefnyddio bain-marie neu ficrodon.

  3. Cymysgwch yr wy a’r fanila gyda’i gilydd, yna ychwanegu’r siwgr ac yna ei ychwanegu at y siocled a’r menyn wedi toddi.

  4. Hidlwch y blawd a’i blygu’n ysgafn tan ei fod wedi’i gyfuno.

  5. Ychwanegwch weddill y darnau siocled a chymysgu’r gymysgedd yn dda.

  6. Arllwyswch i mewn i glawr pobi sgwâr 20cm wedi’i leinio a rhoi’r hadau pwmpen wedi’u tostio ar ben y gymysgedd.

  7. Trowch wres y ffwrn lawr i 175˚C/marc nwy 3 a phobi’r brownis am 25 munud. Os yw’r canol yn ysgwyd o hyd, rhowch y brownis yn ôl yn y ffwrn tan ei fod wedi setio.

  8. Tynnwch y brownis o’r ffwrn a gadael iddynt oeri’n llwyr cyn tynnu’r brownis oddi ar y clawr a’u torri’n sgwariau.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Lle oer, sych am sawl diwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Lle oer, sych neu rewgell. Os ydych am eu rhewi, dylech eu sleisio a’u lapio ac yna eu dadmer yn yr oergell.
Aildwymo
Amherthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.