Pryd blasus a hawdd i'r teulu – pryd o fwyd gwych ar gyfer defnyddio cyw iâr heb ei goginio dros ben o'ch barbeciw.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauCofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.
Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio.
Tostiwch yr almon mewn padell fach, drom, dros wres canolig, tan eu bod yn euraidd, gan eu symud o gwmpas yn y badell yn aml, fel eu bod yn brownio’n gyfartal ac yna eu rhoi i un ochr.
Cynheswch yr olew mewn sosban fawr a choginio’r winwnsyn dros wres canolig i uchel am 5 munud tan ei fod wedi lliwio.
Trowch y garlleg, y sinsir, sinamon, clof, a phast Balti a’u coginio am 1 munud cyn ychwanegu’r cig oen a’i daflu’n dda i’w orchuddio.
Ychwanegwch y reis, y stoc a’r pys a’u coginio dros wres canolig i uchel tan fod y reis yn boeth a’r stoc wedi’i amsugno ac yna ychwanegu’r coriander drwy ei droi a gwasgaru’r fflochiau almon dros y gymysgedd i weini.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.