Skip page header and navigation

Pastai Twrci a Llugaeron

Pastai Twrci a Llugaeron

Manteisiwch i’r eithaf ar fwyd dros ben o bryd o fwyd Nadolig trwy gyfuno twrci wedi'i goginio, saws llugaeron a stwffin yn y bastai Nadoligaidd hon.

Gallant hefyd gael eu rhewi cyn eu coginio, felly ni fydd unrhyw rai nad oes eu hangen arnoch yn cael eu gwastraffu.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Pedair pastai wedi’u gorchuddio â thoes euraidd ar blât gweini

Cynhwysion

200g o dwrci rhost dros ben, wedi'i ddeisio
Pecyn 500g o does brau
2 lwy fwrdd o saws llugaeron
6 pêl stwffin dros ben, wedi'u torri'n fras – tua 140g
50g o gaws meddal braster isel
75g o bys o’r rhewgell wedi’u dadmer
1 wy canolig, wedi'i guro

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 200°C, marc nwy 6.

  2. Rholiwch y toes a thorri 6 chylch â diamedr o 17cm.

  3. Cymysgwch y twrci, y saws llugaeron, y stwffin, y caws meddal a’r pys a’u rhannu rhwng y cylchoedd toes. Brwsiwch ymylon y toes gydag wy a chodi’r ymylon a’u gwasgu i selio’n dda i ffurfio siâp pastai.

    Dylech rewi unrhyw does ychwanegol mewn cynhwysydd aerglos ar y pwynt hwn.

     

  4. Rhowch y pasteiod ar glawr pobi, gyda’r ymylon wedi’u selio’n wynebu ar i fyny a’u brwsio gyda’r wy. Pobwch am 20-25 munud tan eu bod yn euraidd.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu mewn ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.