Roedd Michael a Savanah yn enillwyr ein cystadleuaeth ysgolion ar thema Calan Gaeaf, 'Peidiwch â Bod ag Ofn Eich Sbarion' mewn partneriaeth â Scottish Business in the Community a Good Family Food.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauCynheswch y popty i 220°C, marc nwy 7.
Ffriwch y cig moch, y shibwns a’r tomatos am 3-4 munud a’u gadael i oeri.
Cymysgwch y blawd, soda pobi ac 1 llwy de o halen mewn dysgl fawr ac yna cymysgu’r cig moch i mewn i’r gymysgedd. Gwnewch ffynnon yn y canol ac yna arllwyso’r llaeth enwyn i mewn. Gan ddefnyddio’ch dwylo, ei dylino’n ysgafn i ffurfio toes a ddylai fod yn feddal ond nid yn ludiog ac yna ei fowldio i mewn i dorth gron fawr.
Rhowch y dorth ar silff pobi wedi’i iro’n ysgafn a gwnewch groes yn y top gyda chyllell a’i phobi am 30 munud tan ei bod yn euraidd ac yn swnio’n wag pan gaiff ei tapio ar y gwaelod.
Torrwch y dorth yn dafelli a’i gweini gyda chig rhost, ham neu gaws dros ben.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.