Skip page header and navigation

Tsili con carne cyflym

Tsili con carne cyflym

Wrth goginio pryd briwgig fel hwn mae'n gwneud synnwyr dyblu’r cynhwysion a’i rewi ar gyfer ail bryd ar gyfer diwrnod arall. Os ydych chi'n prynu briwgig sy'n cael ei werthu'n benodol fel cynnyrch wedi'i rewi, gallwch chi ei goginio'n syth o'r rhewgell, fel arall dylid ei ddadmer dros nos yn yr oergell neu os ydych chi am swper cyflym, ei ddadmer yn y microdon.

Mae’n flasus tu hwnt wrth gael ei weini gyda; gwacamole, hufen sur, caws wedi'i gratio, tsilis jalapeño a chreision tortila.


Gan Caroline Marson
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr +
Platiaid o tsili con carne gyda garnais gwyrdd

Cynhwysion

500g o friwgig cig eidion wedi'i rewi
Mae'r rysáit hon yn gweithio'n berffaith gyda chig wedi'i rewi. Edrychwch beth sydd gennych yn eich rhewgell a chofiwch ddadmer cig yn drylwyr cyn ei goginio.
1 winwnsyn, wedi'i dorri'n fân
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns a nionod dodwy yn gweithio'n dda yma.
2 ewin garlleg, wedi'i fathru
2 lwy fwrdd o olew olewydd, i ffrio
1½ llwy fwrdd o biwrî tomato
1 llwy de o bowdr tsili ysgafn (neu fwy os ydych chi'n hoffi tsili poethach)
1 llwy de o goriander
1 llwy de cwmin
1 x tun 400g o domatos wedi'u torri'n fân
Ychwanegwch unrhyw domatos ffres sydd angen eu defnyddio.
1 x tun 400g o ffa coch, wedi'u draenio a'u rinsio
400ml o stoc cig - cig eidion, cig oen neu gyw iâr sydd orau
1 coesyn sinamon

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Cynheswch yr olew mewn sosban fawr a choginio’r winwns gyda’r garlleg, y tsili, y sbeisys a’r piwrî tomato am 5-10 munud.

  3. Ychwanegwch y briwgig a choginio’r gymysgedd dros wres uchel, gan ei droi tan fod y cig i gyd yn newid lliw ac nad oes unrhyw lympiau a’i ferwi tan fod y cig yn dechrau.

  4. Ychwanegwch y tomatos tun a’u berwi a’u gadael i goginio am tua 5 munud.

  5. Arllwyswch y stoc cig a’r ffa coch i mewn, ac yna’r sinamon a’i goginio tan eu bod yn berwi ac yna eu troi a lleihau’r gwres, a gorchuddio’r gymysgedd a’i fudferwi am 30 munud, gan ei droi weithiau. Tynnwch y sinamon, ei flasu, ychwanegu blas a’i weini.

  6. I’w rewi: Cwblhewch y rysáit hyd at ddiwedd cam 4 ac yna oeri’r gymysgedd a’i roi mewn cynhwysydd aerglos, ei labelu a’i rewi am hyd at 3 mis. I’w ddefnyddio: Dylech ei ddadmer dros nos yn yr oergell a mudferwi’r tsili mewn padell ar yr hob tan ei fod yn chwilboeth.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell am 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Bwyd wedi'u storio mewn oergell

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.