Skip page header and navigation

Cawl cennin a thatws

Cawl cennin a thatws

Lluniwyd y rysáit cawl clasurol gan ein partner, Chefs @ School, i gael disgyblion i feddwl am fwyd a sut i'w arbed rhag mynd i’r bin. A fyddech chi'n rhoi cynnig arni gyda'ch rhai bach?
Gan Chefs @ School
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Dysgl o gawl cennin a thatws hufennog

Cynhwysion

1 taten ganolig (tua 250g), wedi'i phlicio a'i deisio
2 genhinen (tua 350g), wedi'u tocio, eu golchi a'u sleisio'n fân
1 winwnsyn canolig, wedi'i dorri'n fân
1 ciwb stoc llysiau â llai o halen
750ml o ddŵr
1 x llwy 15ml o olew llysiau
150ml o laeth hanner sgim
Pupur du wedi'i falu (dewisol)
Ychydig o gennin syfi ar gyfer addurno (dewisol)
Mae croeso i chi ddefnyddio perlysiau sych neu ffres eraill sydd gennych eisoes – mae perlysiau cymysg sych yn gweithio cystal

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Rhowch y cennin syfi mewn cwpan a’u torri’n ddarnau bach gyda’ch siswrn. Byddant yn cael eu defnyddio fel garnais.

  2. Pliciwch a thorri’r daten yn ddarnau bach.

  3. Tynnwch y top gwyrdd a gwraidd y cennin, taflu’r haen allanol a’u golchi. Torrwch yn ddarnau 1cm.

  4. Golchwch y tafelli o gennin a draenio’n dda yn y colandr.

  5. Pliciwch y winwnsyn a’i dorri’n fân gan ddefnyddio’r dechneg crafanc.

  6. Arllwyswch 750ml o ddŵr berwedig i’r jwg mesur, ac ychwanegu’r ciwb stoc wrth ei falu’n fân a’i droi gyda llwy bren i doddi.

  7. Rhowch yr olew yn y sosban ac ychwanegu’r winwnsyn.

  8. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.