Skip page header and navigation

Tost Ffrengig sawrus

Tost Ffrengig sawrus

Os nad ydych erioed wedi rhoi cynnig ar y ffefryn brecinio hwn fel pryd sawrus, rydych chi'n colli allan. Mae hefyd yn ffordd wych o ddefnyddio hen fara – perffaith ar gyfer brecwast, cinio neu swper!
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 2
Amser Paratoi/Coginio: 10 munud
three slices of french toast on a plate topped with cheese, tomato and herb garnish

Cynhwysion

Dwy dafell o fara trwchus (os yw ychydig yn hen, gorau oll!)
3 wy
Diferyn o laeth
Halen a phupur
Llond llaw o gennin syfi wedi'u torri
Llwy fwrdd o fenyn

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Curwch yr wyau mewn dysgl ac ychwanegu ychydig o laeth ac ychydig o halen a phupur.

  2. Trosglwyddwch i ddysgl neu blât bas a socian y bara yn y cymysgedd wy am ychydig funudau ar bob ochr.

  3. Yn y cyfamser, cynheswch badell ffrio ar wres canolig i uchel ac ychwanegu’r menyn.

  4. Pan fydd y menyn yn dechrau brownio, ychwanegwch y bara sydd wedi bod yn y gymysgedd wy i’r badell a’i ffrio am ychydig funudau neu tan fod yr ochr isaf yn troi’n frown euraidd. Trowch â sbatwla a gwneud yr un peth ar yr ochr arall.

  5. Trosglwyddwch i blât gweini, a thra bod y tost yn dal yn boeth, gratio ychydig o gaws drosto a’i adael i doddi ychydig ac yna ychwanegu llond llaw o gennin syfi wedi’u torri a’u gweini ar unwaith.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Mae’n well ei fwyta ar unwaith
Amser
Ddim yn berthnasol
Ble i’w storio
Ddim yn berthnasol
Aildwymo
Ddim yn berthnasol

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.