Skip page header and navigation

Torth courgette a thatws melys

Torth courgette a thatws melys

Mae torth fel hon yn ffordd flasus o ddefnyddio wyau a llysiau ac mae'n berffaith i'w rhannu.
Gan Irene Mosata, I'mPerfect Foods
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr +
Torth euraidd o fara wedi’i thafellu’n drwchus, gyda llysiau

Cynhwysion

5 wy wedi'u curo'n ysgafn
1 winwnsyn, wedi'i dorri'n fân
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns neu nionod dodwy’n gweithio'n dda yma.
1 ewin garlleg, wedi'i fathru
450g courgette wedi'i gratio
250g o datws melys wedi'u plicio a'u gratio
150g o almwn
1 llwy de o bowdr pobi
1⁄2 cwpan o furum maethol neu gaws cryf
2 lwy fwrdd o pesto
1 llwy fwrdd o rosmari sych
Gellir defnyddio perlysiau ffres neu wedi'u rhewi hefyd
Ychydig o domatos bach i’w roi ar y dorth
Halen a phupur

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Leiniwch dun pobi (20cm x 30cm, neu faint tebyg) â phapur gwrthsaim.

  2. Gratiwch y tatws melys, courgette, winwnsyn a’r garlleg fel yr uchod. Os oes gennych chi brosesydd bwyd, defnyddiwch y llafn gratio.

  3. Cymysgwch y courgette, y tatws melys, almwn, rhosmari, burum neu gaws, a’r halen a phupur gyda’i gilydd mewn dysgl fawr.

  4. Gwnewch ffynnon yn y cymysgedd ac ychwanegu’r wyau a’r pesto a’i gymysgu’n dda.

  5. Cymysgwch y winwns, y garlleg a’r powdr pobi.

  6. Leiniwch dun pobi â phapur gwrthsaim ac arllwys y cymysgedd i mewn, gan ei daenu’n gyfartal, a rhowch y tomatos ar ei ben.

  7. Pobwch am 40-50 munud ar 400F/200C. Mae’r dorth wedi’i choginio pan ddaw sgiwer allan yn lân.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Mae’n well ei gweini’n ffres. Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.