Skip page header and navigation

Risoto pwmpen, caws glas ac afal

Risoto pwmpen, caws glas ac afal

Mae cogydd, tiwtor coginio a pherchennog busnes bwyd Pop yng Nghaeredin, Steve Brown, yn rhannu ei rysáit risoto ar thema Calan Gaeaf.
Gan Steve Brown
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30 - 45 munud
Afal pwmpen caws glas

Cynhwysion

200g o bwmpen, wedi'i blicio
2 winwnsyn, wedi'u sleisio'n fân
2 ewin garlleg, wedi'i fathru
40g o fenyn
75ml o win gwyn
2 sbrigyn teim ffres, dail yn unig
2-3 dail o saets ffres, wedi'u torri'n fân
200g o reis risoto
800ml o stoc llysiau
50g o gaws Parma
Ychydig o sudd lemwn
1 afal
75g o gaws glas, wedi'i dorri'n ddarnau bach (neu fwy os dymunwch!)

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch sosban drom dros wres canolig ac ychwanegu sblash o olew, y winwnsyn, y garlleg, y dail teim, y saets wedi’i dorri’n fân, halen a phupur a gadael iddynt chwysu am 5 munud.

  2. Yn y cyfamser, pliciwch a deisio’r bwmpen yn ddarnau bach, a deisio’r afal.

  3. Pan fydd y winwns wedi meddalu, ychwanegwch y bwmpen wedi’i deisio ac ychydig mwy o flas, yna gadael y cwbl i chwysu tan eu bod yn dechrau meddalu.

  4. Trowch y gwres i fyny ac ychwanegu’r reis risoto, gan ffrio’n ysgafn tan fod y grawn yn popian ychydig cyn ychwanegu’r gwin.

  5. Unwaith y bydd y gwin wedi’i amsugno, ychwanegwch y stoc fesul tipyn, gan ei goginio’n ysgafn tan fod pob mesur wedi’i amsugno.

  6. Ar ôl 15-20 munud, dylai’r holl hylif gael ei amsugno a bydd y reis yn frau. Tynnwch y risoto oddi ar y gwres a churo’r menyn a’r caws Parma wedi’i gratio i mewn cyn plygu’r afal wedi’i ddeisio a’r caws glas i mewn i’r gymysgedd.

  7. Ychwanegwch flas gyda halen, pupur a diferyn o sudd lemwn.

  8. Gweinwch gyda dail saets wedi’i ffrio mewn menyn a salad ar yr ochr.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.