Skip page header and navigation

Stwnsh Pwdin Du Stornoway

Stwnsh Pwdin Du Stornoway

Ewch â'ch tatws i'r lefel nesaf, gyda'r rysáit flasus hon gan ddefnyddio Pwdin Du enwog Stornoway.
Gan Stornoway Black Pudding
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
a heap of creamy mashed black pudding on a plate topped with a whole black pudding

Cynhwysion

400g o datws, wedi'u torri'n dalpiau mawr
Nid oes angen plicio, dim ond eu golchi’n dda!
200g o bwdin du Stornoway, wedi'i deisio
100ml o laeth
100ml o hufen dwbl
100g o fenyn

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Rhowch y tatws mewn padell fawr, eu gorchuddio â dŵr ac ychwanegu blas gyda halen a gadael iddynt ferwi ac yna troi’r gwres i lawr a’u mudferwi’n ysgafn am 15-20 munud neu tan eu bod wedi coginio drwyddynt. Rhowch y tatws mewn colandr a’u draenio’n dda.

  2. Yn y cyfamser, ffriwch bwdin du Stornoway yn sych mewn padell tan ei fod yn grimp, yna ei roi ar bapur cegin.

  3. Pasiwch y tatws trwy reisiwr tatws, neu eu stwnsio a’u rhoi yn ôl yn y badell. Ychwanegwch y llaeth, yr hufen a’r menyn yn raddol, a’u cymysgu tan fod gennych chi stwnsh menynaidd llyfn.

  4. Ychwanegwch ddigon o flas, yna ei droi drwy’r pwdin du yn ysgafn cyn ei weini.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Mae’n well ei weini’n ffres. Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.