Skip page header and navigation

Stiw cig eidion gyda thwmplenni mewn crochan araf

Stiw cig eidion gyda thwmplenni mewn crochan araf

Gellir addasu'r rysáit hon i weddu i'r hyn sydd gennych yn yr oergell. Bydd cig eidion wedi’i stiwio yn gweithio cystal â chig eidion wedi'u deisio, torrwch ef eich hun ymlaen llaw.

Os ydych chi'n bwriadu gadael y popty araf ymlaen tra yn y gwaith gallech chi gwblhau rhai o'r camau hyn y noson gynt a rhoi'ch cig a'ch llysiau yn yr oergell cyn eu hychwanegu at y pot yn y bore.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr +
beef stew in a pot with dumplings

Cynhwysion

600-900g o gig eidion wedi'i ddeisio
1 winwnsyn, wedi'i ddeisio
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns, cennin neu nionod dodwy yn gweithio'n dda yma.
2 goesyn seleri
3 moronen, wedi'u torri
Nid oes angen eu plicio dim ond eu golchi’n dda!
Madarch, courgettes, neu unrhyw lysieuyn arall sydd gennych y mae angen ei ddefnyddio yn yr oergell
50g o siwed (llysiau neu gig eidion)
1 llwy fwrdd o olew
1 ciwb stoc (llysiau neu gig eidion)
Bouquet de garni neu ddail bae
3 ewin o arlleg, wedi'i dorri
100g o flawd codi
Halen a phupur i ychwanegu blas
Persli neu deim (dewisol)
Mae perlysiau sych yn gweithio cystal.
Saws Swydd Gaerwrangon neu win coch dros ben (dewisol)

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Cynheswch yr olew o’ch dewis mewn padell ffrio fawr cyn ffrio’r ewin garlleg yn ysgafn.

  3. Cymerwch y cig eidion wedi’i ddeisio a’i orchuddio â llond llaw o flawd mewn dysgl ar wahân gyda phinsiad o halen a phupur.

  4. Unwaith y bydd y cig wedi’i orchuddio’n llawn rhowch y garlleg yn y badell ffrio a’i ffrio’n uchel am ychydig funudau tan fod y cig yn frown.

  5. Rhowch y cig i mewn i’r crochan araf a throi’r gwres i lawr.

  6. Ffriwch eich winwns a’ch llysiau wedi’u torri o’ch dewis am 5 munud cyn eu hychwanegu eto at y crochan araf.

  7. Cymysgwch y ciwb stoc mewn 600ml o ddŵr cynnes.

  8. Ychwanegwch win coch neu ychydig o’ch stoc a throi’r gwres i fyny am ychydig funudau i lanhau, neu ‘disgleinio’, eich padell. Gair ffansi yw Disgleinio i gael yr holl ddarnau brown oddi ar y gwaelod! Rhowch y cynnwys yn y popty araf.

  9. Ychwanegwch weddill eich stoc, y  gwin coch, y saws Swydd Gaerwrangon, neu berlysiau fel dail llawryf o bouquet de garni a allai fod gennych yn y cwpwrdd.

  10. Rhowch y crochan araf ar uchel am 5 awr neu ar isel am 8 awr.

  11. I wneud y twmplenni cymysgwch 50 gram o siwet gyda 100 gram o flawd codi a thua 5 llwy fwrdd o ddŵr. Gallwch ychwanegu halen, persli neu deim ar yr adeg hon yn dibynnu ar eich dewis.

  12. Tylino’r toes gyda’ch dwylo tan ei fod yn gadarn ond yn hyblyg a’i siapio’n 8 pelen o does.

  13. Hanner awr cyn i chi gynllunio i fwyta eich stiw rhowch eich peli twmplen ar ei ben a gadael iddyn nhw frownio.

  14. Gweinwch y stiw yn boeth, rydym ni’n ei hoffi gyda thatws stwnsh a phys.

  15. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur. Yn syml, dylid ei ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell am 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Thermomedr mewn oergell

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.