Skip page header and navigation

Sglodion trwchus llwythog

Sglodion trwchus llwythog

Mae'r holl waith caled yn cael ei wneud i chi yma, dim ond gwasgaru'r caws dros ben a stribedi o gig moch, salami neu ham ar y sglodion trwchus. Rhowch gynnig ar ddiferion o saws pesto neu tsili a gweinwch nhw gyda phlât o gigoedd oer, salad ac unrhyw bicls o'r cwpwrdd.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 30-45 munud
Dysgl yn llawn lletemau tatws gyda chaws tawdd

Cynhwysion

Bag 1kg o sglodion trwchus wedi'u rhewi
150g o gaws caled wedi'i gratio
6-8 sleisen o gig moch heb ei gochi, wedi'i dorri'n ddarnau bach
4 shibwns canolig wedi’u torri’n fân

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn i 200°C (400°F).

  2. Rhowch y sglodion trwchus ar glawr pobi a gwasgaru’r caws wedi’i gratio a’r cig moch drostynt a’u pobi yn y ffwrn tan fod y caws wedi toddi a’r cig moch wedi’i goginio.

  3. Gwasgarwch gyda winwns gwyrdd a jalapeños a’u gweini’n boeth ar eu pennau eu hunain neu gyda chigoedd oer a salad gwyrdd.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell am 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.