Skip page header and navigation

Pot ffa Boston

Pot ffa Boston

Dyma bryd teuluol blasus ar gyfer canol yr wythnos sy’n defnyddio cynhwysion o’r cwpwrdd bwyd a sbeisys gyda pheli cig ychwanegol i’w rhewi ar gyfer ail bryd.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Potyn lliwgar o botes oren wedi’i gymysgu ag amrywiaeth o ffa a llysiau cynhesol

Cynhwysion

Peli cig

2 dafell o fara
Mae bara wedi'i rewi yn gweithio'n dda a dylid ei ddadmer ar dymheredd ystafell neu ei dostio’n yn syth o'r rhewgell.
750g o friwgig twrci
Mae'r rysáit hon yn gweithio'n berffaith gyda chig wedi'i rewi. Edrychwch beth sydd gennych yn eich rhewgell a dadmer y cig yn drylwyr cyn ei goginio.
2 ewin garlleg, wedi'i falu
1 winwnsyn canolig, wedi'i dorri'n fân
Gall winwns dros ben gael eu deisio a’u rhewi mewn cynhwysydd aerglos
2 lwy de o dyrmerig
2 lwy de o bowdr tsili
Pupur du i ychwanegu blas
1 llwy fwrdd o olew llysiau

Ffa Boston

1 llwy fwrdd o olew llysiau
1 ewin garlleg, wedi'i falu
1 winwnsyn bach, wedi'i dorri'n fân
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns, cennin neu nionod dodwy yn gweithio'n dda hefyd.
1 pupur coch bach, wedi'i dorri
Os oes gennych chi lysiau eraill fel madarch, courgettes a phlanhigyn wy y mae angen eu defnyddio, ceisiwch eu torri'n giwbiau bach a’u hychwanegu at y cymysgedd ar yr un pryd â phan fyddwch yn ffrio’r winwns.
2 lwy de o baprica
3 llwy fwrdd o saws barbeciw
Tun 415g o ffa pob gyda llai o halen a siwgr
1 ciwb stoc llysiau wedi’i falu’n fân i 200ml o ddŵr berwedig a'i droi

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig, a hynny trwy ei ddadmer yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘ddadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Cynheswch y ffwrn i 200°C/180°C Ffan/nwy 7.

  3. I wneud y briwsion bara dylid rhwygo’r bara a’i roi mewn prosesydd bwyd a’i droi ymlaen am ychydig eiliadau tan fod y bara yn debyg i friwsion bara mân. Fel arall, gratiwch y bara yn fân.

  4. Rhowch y briwsion bara a gweddill y cynhwysion peli cig sydd ar ôl, ac eithrio’r olew, yn y ddysgl a’u cymysgu’n dda tan fod y cynhwysion wedi’u cyfuno ac yna defnyddio eich dwylo i wneud 24 pêl o faint cyfartal tua maint cnau Ffrengig. Rhowch 12 pêl o’r neilltu i’w rhewi a rhoi’r peli sy’n weddill ar badell rostio bas wedi’i iro’n ysgafn ac yna brwsio’r peli yn ysgafn gydag olew a’u pobi am 20 munud tan eu bod wedi coginio drwyddynt.

  5. Yn y cyfamser i baratoi’r ffa Boston cynheswch yr olew mewn sosban a ffrio’r garlleg, winwnsyn a phupur yn ysgafn am 5 munud tan eu bod wedi meddalu.

  6. Gwasgarwch y paprica mwg dros y cynhwysion a’i goginio’n ysgafn am funud yna ychwanegu’r saws barbeciw, ffa pob a hanner y stoc. Mudferwch yn ysgafn am 10 munud, gan ychwanegu gweddill y stoc os yw’r saws yn drwchus.

  7. Tynnwch y peli cig o’r ffwrn a’u hychwanegu at y saws, gan eu troi’n ysgafn tan fod y peli wedi’u gorchuddio â saws.

  8. Rhowch gynnig ar eu gweini gyda sglodion trwchus, reis, pasta neu fara. Mae’r pryd hwn hefyd yn dopin gwych ar gyfer taten drwy’i chroen. Gallwch ddefnyddio peli heb gig llysieuol parod i wneud y pryd o fwyd hwn yn un llysieuol.

  9. Rhewi a storio: Rhewi’r peli cig heb eu coginio mewn blwch rhewgell rhwng papur memrwn ac yna eu dadmer yn yr oergell a’u defnyddio cyn pen 24 awr, a’u coginio fel y manylir uchod. Gellir rhewi ffa Boston ond mae’n well eu bwyta’n ffres. Os nad oes gennych chi rewgell fe allech chi goginio’r peli cig ar yr un pryd a’u storio yn yr oergell am hyd at ddau ddiwrnod, fel arall byddai modd i chi haneru’r rysáit ar gyfer y peli cig.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Rhowch y pryd mewn ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.