Torth banana menyn pysgnau
Torth banana menyn pysgnau
Os nad ydych chi mewn hwyliau i bobi, gallwch chi hefyd rewi bananas ac maen nhw'n berffaith i’w rhoi mewn smwddi neu eu cymysgu â rhywfaint o goco i wneud hufen iâ iach!
![Darnau siâp ciwb o dorth menyn pysgnau a banana gyda sleisys o fanana wedi’u pobi ar eu pennau](https://www.lovefoodhatewaste.com/sites/default/files/styles/16_9_two_column/public/2022-05/peanut_butter_banana_loaf_1934413547.jpg.webp?itok=LfXe-ir-)
Cynhwysion
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauRysáit
Mewn dysgl gymysgu fawr, stwnsiwch y bananas gyda fforc.
Ychwanegwch y siwgr a’i gyfuno â llwy bren.
Ychwanegwch y menyn pysgnau, yr wy, y fanila a’r olew, a’i gymysgu’n dda.
Hidlwch y blawd i mewn ac yna ei gyfuno â chymysgydd llaw trydan, neu lwy bren.
Trowch i mewn i dun torth 1 pwys wedi’i leinio, a’i bobi mewn ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw (ffan 170°C / 150°C) am 45-50 munud a gwirio ei fod wedi coginio gyda sgiwer.
Gadewch i oeri ar weiren, gan ei droi o’r tun ar ôl ychydig funudau.
Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Dognau delfrydol
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauOs gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar
![Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi](https://www.lovefoodhatewaste.com/sites/default/files/styles/16_9_two_column/public/2022-07/Fridge%20tool%20no%20text-1.png.webp?itok=AEybYFIx)
Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach
Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.