Pryd blasus a hawdd i'r teulu – pryd o fwyd gwych ar gyfer defnyddio cyw iâr heb ei goginio dros ben o'ch barbeciw.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauCynheswch y ffwrn i 200°C (400°F) marc nwy 6.
Rhowch y selsig mewn tun rhostio mawr a chymysgu’r mêl a’r mwstard gyda’i gilydd mewn dysgl fach, yna ei arllwyso dros y selsig, eu troi a’u hysgwyd fel eu bod yn cael eu gorchuddio.
Ail gynheswch y selsig yn y ffwrn am 10-12 munud, gan eu troi dros hanner ffordd, a’u gweini’n boeth neu’n gynnes, gyda ffyn bach pren a photiau bach o sôs coch fel dip.
I goginio selsig amrwd ar gyfer y rysáit hon: dylid eu rhoi mewn ychydig o olew yna rhoi’r selsig bach mewn tun rhostio mawr a’u coginio am 20-25 munud ar dymheredd o 200°C (400°F) marc 6, gan eu troi yn weithiau. Draeniwch y braster a’i daflu ar bapur cegin, yna rhoi’r selsig yn ôl yn y badell gyda’r mêl a’r mwstard a’u coginio am 10 munud arall, yna eu hoeri a’i gorchuddio a’u gadael yn oer dros nos.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.