Mae cogydd, tiwtor coginio a pherchennog busnes bwyd Pop yng Nghaeredin, Steve Brown, yn rhannu ei rysáit risoto ar thema Calan Gaeaf.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauTorrwch y tomatos bach yn eu hanner a sleisio eich courgette a thorri unrhyw lysiau eraill yr hoffech eu hychwanegu.
Ffriwch y llysiau mewn padell gyda’r olew olewydd am ychydig funudau.
Ychwanegwch flas gyda’r tyrmerig a halen a phupur.
Ychwanegwch ychydig o ddŵr i atal y llysiau rhag glynu tan fod popeth wedi’i goginio - tua 20 munud.
Yn y cyfamser, os ydych chi eisiau ychwanegu pasta dylech ei goginio nawr a’i gymysgu’n dda gyda’r llysiau wedi’u coginio.
Neu fe allech chi ychwanegu dau wy, pinsied o tsili a’u coginio gyda’i gilydd am 3-4 munud.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.