Skip page header and navigation

Saws pasta selsig a phupur sbeislyd

Saws pasta selsig a phupur sbeislyd

Dyma rysáit sylfaenol defnyddiol y bydd y plant yn dwli arni ac nid yw'n cymryd amser i goginio. Fe allech chi ei gwneud yn fwy o swp gyda mwy o lysiau fel moron, ffa pob, brocoli, ffa gwyrdd wedi'u torri neu bys.

I wneud fersiwn sy’n fwy addas i oedolyn defnyddiwch selsig Eidalaidd da sydd wedi'u tynnu allan o'r casin.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
a pasta dish covered in spicy red pepper and crumbled pork sausage meat sauce

Cynhwysion

500g o gig selsig
Mae'r rysáit hon gweithio'n berffaith gyda chig wedi'i rewi. Edrychwch beth sydd gennych yn eich rhewgell a chofiwch ddadmer y cig yn drylwyr cyn ei goginio.
2 lwy fwrdd o olew olewydd
1 winwnsyn, wedi'i blicio a'i dorri
1 pupur coch, heb yr hadau ac wedi’i dorri'n fân
1 pupur melyn, heb yr hadau ac wedi’i dorri'n fân
3 ewin garlleg, wedi'u plicio a'u mathru
1 llwy de o fflochiau tsili sych
Powdr tsili
1 llwy fwrdd o biwrî tomato
2 x tun 400ml o domatos tun wedi'u torri'n fân
Ychwanegwch unrhyw domatos ffres sydd angen eu defnyddio
Llond llaw o berlysiau
Mae perlysiau cymysg sych yn gweithio cystal
Dail basil wedi'u torri'n fras
Halen a phupur du
50g o gaws caled wedi'i gratio
600g o basta sych
Persli wedi'i dorri i weini

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu mewn microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Mewn padell ffrio, ychwanegwch y selsig a’i dro-ffrio dros wres canolig tan ei fod yn lliw euraidd, yna ei dorri’n ddarnau bach gyda llwy bren yn wrth iddo goginio. Rhowch y selsig ar blât wedi’i orchuddio â phapur cegin i ddraenio’r braster gormodol.

  3. Yn yr un badell, ychwanegwch yr olew olewydd a choginio’r winwnsyn a’r pupur tan fod y winwns yn dryloyw a’r pupurau’n frau ac ychydig yn frown. Yn olaf, ychwanegwch y garlleg, y past tomato a’r tsili a’i dro-ffrio am 1 munud.

  4. Ychwanegwch y tomatos wedi’u torri a rhoi’r selsig wedi’i frownio yn ôl yn y badell a’i ferwi, ac yna troi’r gwres i lawr a’i orchuddio a’i goginio am 10 munud. Dylai’r saws fod yn debyg i gawl, os yw’n ymddangos braidd yn drwchus ychwanegwch ychydig o ddŵr neu win coch (oedolion yn unig). Coginiwch y pasta yn unol â chyfarwyddiadau’r pecyn tra bod y saws yn coginio. Ychydig cyn ei weini, ychwanegwch y basil a’r caws wedi’i gratio i’r saws ac ychwanegu blas os oes angen.

  5. Cymysgwch y saws gyda’r pasta wedi’i ddraenio, a’i weini mewn dysglau gyda phersli wedi’i dorri a gyda salad gwyrdd a thafelli o fara garlleg.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.