Skip page header and navigation

Risoto llysiau'r gwanwyn

Risoto llysiau'r gwanwyn

Dim ond am tua chwe wythnos fer ym mis Mai a mis Mehefin y mae asbaragws Prydain yn eu tymor. Gwnewch y mwyaf ohono gyda'r ddysgl risoto wych hon, gallwch hefyd ychwanegu llysiau dros ben neu gig wedi'i goginio.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
a large bowl of white rice mixed with bright veggies including garden peas and carrot

Cynhwysion

Tua 10 gwaywffyn asbaragws
1 cwpan o bys wedi'u rhewi
2 ewin o arlleg, wedi’i friwsioni
1 winwnsyn, wedi'i dorri
300g o reis arborio
1 litr o stoc
Pinsiad o fintys sych
Mae croeso i chi ddefnyddio perlysiau sych neu ffres eraill sydd gennych eisoes - mae perlysiau cymysg sych yn gweithio cystal.
50g o gaws Parma wedi'i gratio
3 llwy fwrdd o olew olewydd
1 llwy fwrdd o fenyn
Gwydr bach o win gwyn sych

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Gwnewch y stoc yn unol â’r cyfarwyddiadau ar y pecyn a’i adael i fudferwi mewn padell wrth i chi ddechrau’r risoto.

  2. Cynheswch y menyn a’r olew mewn padell drom dros wres canolig, yna ychwanegu’r winwnsyn a’r garlleg a’u ffrio tan eu bod yn dryloyw.

  3. Ychwanegwch y reis a’i goginio am ychydig funudau tan fod y grawn i gyd wedi’u gorchuddio ag olew ac yn dechrau troi’n euraidd. Arllwyswch y gwin i mewn a choginio tan ei fod yn bersawrus.

  4. Parhewch i ychwanegu’r stoc at y reis tan fod y cymysgedd yn dod yn drwchus ac yn gludiog ac yna ychwanegu’r pys wedi rhewi tua’r diwedd fel eu bod yn coginio yn y stoc gyda’r reis. Pan ychwanegir yr holl stoc, gwiriwch wead y reis - efallai y bydd angen i chi ychwanegu ychydig mwy o ddŵr berwedig i gael y risoto i’r cysondeb cywir. Ond cofiwch, dylai fod yn ‘al-dente’, nid meddal a slwtshlyd!

  5. Pan fydd y risoto wedi’i goginio, ychwanegwch binsiad hael o fintys sych, ychydig o halen a phupur, a’r caws Parma wedi’i gratio a’i gymysgu’n dda.

  6. Rholiwch y gwaywffyn asbaragws sydd wedi’u rhoi i un ochr i weini ar ben y risoto, ynghyd ag ychydig o gaws Parma ychwanegol.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos. Oerwch yn gyflym, o fewn 1 awr.
Amser
Oergell am 24 awr
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.