Skip page header and navigation

Rholiau crwst haenog cig moch a winwns

Rholiau crwst haenog cig moch a winwns

Mae'r rhain yn ddarnau bach fflat a haenog, siâp deilen y gellir eu gwneud o flaen amser a'u rhewi. Hyd yn oed os yw'r crwst wedi'i rolio'n barod, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei rolio ychydig yn deneuach.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 1 awr 30 munud
Cylchoedd o roliau toes wedi’u tafellu yn cynnwys bacwn a winwns

Cynhwysion

2 ddalen o grwst pwff wedi'i rolio'n barod neu 200g o grwst pwff wedi'i rewi wedi'i rolio allan yn denau
1 llwy fwrdd o olew olewydd
1 ewin garlleg, wedi'i falu
200g o sleisys o gig moch, wedi'u torri'n fân
Gallwch chi amrywio'r llenwad yma a defnyddio caws dros ben, llysiau, perlysiau ffres a chigoedd wedi'u coginio yn lle hynny. Edrychwch beth sydd yn eich oergell!
1 winwnsyn, wedi'i dorri'n fân
2 lwy fwrdd o pesto, basil neu domato heulsych
2 lwy fwrdd o berlysiau wedi'u torri'n fân
1 llwy fwrdd o fasil wedi'i dorri
2 lwy fwrdd o gaws wedi'i gratio

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. I wneud y llenwad: Cynheswch yr olew mewn padell ffrio o faint canolig; yna coginio’r garlleg a’r cig moch, gan ei droi tan fod y cig moch yn greisionllyd ac yna ychwanegu’r winwnsyn a’r pesto, gan ei droi am 2 funud.

  2. Trowch y basil a’r caws Cheddar i mewn i’r cymysgedd o gig moch a gadael iddo oeri. (Gellir gwneud hyn y noson gynt).

  3. Gosodwch y crwst ar yr arwyneb gwaith a’i rolio allan i siâp petryal tenau iawn ac yna thorri’r crwst i lawr y canol ar ei hyd a thaenu hanner y llenwad ar bob darn o grwst; plygu dwy ochr gyferbyn y crwst i mewn tan eu bod yn cyfarfod yn y canol; gwasgwch yn ysgafn i’w fflatio ychydig. Rholiwch bob ochr yn hanner eto i gyfarfod yn y canol ac yna ei wasgu’n ysgafn i’w fflatio.

  4. Lapiwch mewn haenen lynu a’i roi yn y rhewgell am tua 1 awr.

  5. Cynheswch y ffwrn tan ei fod yn boeth iawn tua 220°C (400°F) marc 7. Rhowch olew ar ddwy silff pobi’n ysgafn.

  6. Torrwch y rholiau crwst yn dafelli 1.5cm gan ddefnyddio cyllell finiog. Ac yna rhoi’r sleisys yn fflat ar  silffoedd pobi parod tua 1.5cm ar wahân. Pobwch, heb ei orchuddio, mewn ffwrn boeth iawn am tua 12 munud neu tan fod y crwst wedi brownio ychydig.

  7. I rewi ymlaen llaw: cwblhewch y rysáit a storio’r rholiau crwst wedi’u coginio mewn cynhwysydd aerglos. Mae modd eu rhewi am hyd at 3 mis.

    I’w ddefnyddio: Dylid dadmer y rholiau crwst ar dymheredd yr ystafell am 1 awr, ac yna eu cynhesu ar glawr pobi yn y ffwrn ar 180°C (350°F) marc nwy 4 am 4-5 munud.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid eu dadmer ar dymheredd ystafell am 1 awr, a’u haildwymo yn y ffwrn am 4-5 munud

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.