Skip page header and navigation

Cyri pastai’r bugail ffacbys a chorbys

Cyri pastai’r bugail ffacbys a chorbys

Cinio llysieuol cysurus a maethlon, yn llawn o lysiau sawrus trwchus a thatws crensiog ar ei ben.
Gan Craig & Shaun McAnuff, Original Flava
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 45-60 munud
Pastai bugail euraidd mewn dysgl ceramig wen gyda garnais gwyrdd ar ei phen

Cynhwysion

12 taten wen fawr, wedi’u golchi a'u torri yn eu hanner
Nid oes angen eu plicio, dim ond eu golchi’n dda!
1 winwnsyn canolig, wedi'i dorri'n fân
2 moronen ganolig, wedi'u deisio
Defnyddiwch unrhyw nwyddau tun neu lysiau o'ch oergell neu'ch cypyrddau
2 ewin o arlleg, mâl
400ml o laeth cnau coco – hanner ar gyfer y tatws, hanner ar gyfer y cymysgedd cyri
2 gan o ffacbys
1 can o gorbys
2 domato, wedi'u deisio
6 llwy fwrdd o fenyn
1 llwy fwrdd o olew olewydd
3 llwy fwrdd o bowdr cyri
2 lwy fwrdd o ronynnau llysiau neu stoc
2 lwy de o halen, neu fwy i ychwanegu blas, ac 1 llwy de ar gyfer y tatws
1 llwy de o ddail teim sych
1 llwy de o saws brownio neu saws soi (dewisol)

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Golchwch y tatws a’u torri’n chwarteri, yna eu hychwanegu i sosban o ddŵr berw a’u coginio tan eu bod yn feddal.

  2. Ychwanegwch ychydig o olew olewydd i badell ffrio fawr dros wres canolig a choginio’r winwns a’r garlleg tan eu bod yn feddal, yna ychwanegu 2 lwy fwrdd o bowdr cyri a’i gymysgu tan fod y gymysgedd yn dywyll.

  3. Ychwanegwch 200ml o laeth cnau coco ato, a’u cymysgu gyda’i gilydd i greu past cyri trwchus, yna ychwanegu’r tomatos wedi’u torri’n fân, gronynnau llysiau, moron a theim sych. Yna cymysgu’r ffacbys tun wedi’u draenio a’r corbys i mewn i’r gymysgedd.

  4. Ychwanegwch flas gyda halen a phupur du ac yna ychwanegu 100ml o ddŵr, yna ei goginio am 5-7 munud.

  5. Draeniwch y dŵr o’r sosban o datws, yna eu stwnsio tan eu bod yn feddal ac yna ychwanegu gweddill y llaeth cnau coco ynghyd â menyn a halen, a’i gymysgu tan eu bod yn llyfn.

  6. Rhowch y cymysgedd cyri ffacbys mewn dysgl gaserol, ac yna ychwanegu’r tatws stwnsh ar ei ben a’i lyfnhau.

  7. Crëwch grystyn ar ei ben gyda fforc yna ei roi mewn ffwrn wedi’i gynhesu ymlaen llaw ar 375°F/190°C/marc 5 am 30 munud tan ei fod yn frown euraidd ar ei ben.

  8. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell am 3 diwrnod
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Rhowch y pryd yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.