Skip page header and navigation

Cyri llysiau cymysg

Cyri llysiau cymysg

Arbedwch y llysiau hynny o waelod yr oergell a rhoi bywyd newydd iddynt yn y cyri dyfeisgar hwn sydd mor ysgafn ag y mae'n iach. Rydym ni wedi defnyddio past cyri Madras (i roi cic ychwanegol) - gallwch chi ddewis eich ffefryn. Rhowch gyffyrddiad dilys iddo â reis basmati hefyd.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Cyri llyseiol mewn dysgl

Cynhwysion

450g o datws neu datws melys
225g o lysiau fel moron, brocoli, corn bach, sbrowts, blodfresych a ffa Ffrengig
2 lwy fwrdd o olew llysiau
4 llwy fwrdd o bast cyri (fe wnaethom ni ddefnyddio Madras)
1 winwnsyn, wedi'i blicio a'i dorri
4 ewin garlleg, wedi'u plicio a'u torri
50g o gnau coco hufennog, wedi'i gratio
Tun 400g o domatos wedi'u torri neu domatos ffres wedi'u torri'n fân
1 llwy de lefel o halen
4 llond llaw o sbigoglys ffres
Sbrigyn coriander i addurno
Reis basmati, i weini

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Coginiwch y tatws mewn dŵr hallt berw am 10 munud ac yna eu draenio a’u rhoi i un ochr. Paratowch y llysiau eraill pan fydd y tatws yn coginio.

  2. Cynheswch yr olew mewn padell fawr, ychwanegu’r winwnsyn a’r garlleg a’u coginio am tua 5 munud (tan fyddant wedi meddalu), gan droi’n achlysurol. Ychwanegwch y past cnau coco a chyri a’u coginio, gan droi, am 1 munud ac yna ychwanegu’r tomatos a’u coginio tan fod y gymysgedd yn debyg i bast trwchus.

  3. Ychwanegwch yr holl lysiau ac eithrio’r sbigoglys, halen a 150ml o ddŵr tan eu bod yn berwi ac yna ei orchuddio a mudferwi am tua 15 munud, yna ychwanegu’r sbigoglys. Coginiwch am 5 munud arall neu tan fod y llysiau i gyd yn feddal. Ychwanegwch flas ac yna ychwanegu’r coriander ychydig cyn ei weini.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.