Rysáit berffaith ar gyfer defnyddio unrhyw gaws dros ben.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauCoginiwch y tatws mewn dŵr hallt berw tan eu bod yn frau iawn, yna eu draenio a’u gadael i sychu mewn colandr cyn eu rhoi mewn dysgl i’w stwnsio ac ychwanegu blas. Ychwanegwch y mayonnaise, y tiwna, yr india-corn a’r cennin syfi a’u siapio’n 4 cacen a’u gadael i oeri tan eu bod yn oer ac wedi caledu.
Trochwch bob cacen yn yr wy, gan adael i’r gormodedd ddiferu, yna eu gorchuddio gyda briwsion bara a’u hoeri am 15 munud.
Cynheswch ychydig o’r olew mewn padell a ffriwch y cacennau’n ysgafn am 2-3 munud bob ochr tan eu bod yn euraidd. Efallai y bydd angen i chi wneud hyn mewn sypiau a’u cadw’n mewn ffwrn ar wres isel. Gweinwch gyda mayonnaise a dail salad ychwanegol.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.