Skip page header and navigation

Pitsa bach ar gyfer parti

Pitsa bach ar gyfer parti

Gellir gosod y pitsas bach hyn a'u rhewi o flaen llaw, felly'r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw eu tynnu allan o'r rhewgell a'u coginio ar glawr pobi wedi'u rhewi. Gallech dorri cylchoedd o sylfaen pitsa parod 30cm ar gyfer pitsa mwy dilys. Gallech roi unrhyw fara sydd dros ben mewn bag a'i roi yn y rhewgell i'w ddefnyddio'n ddiweddarach ar gyfer briwsion bara.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 20
Amser Paratoi/Coginio: 30 munud
Paratoi pizza bach gyda chaws, saws tomatos, ham ac olifau ar ei ben

Cynhwysion

8 tafell o fara
Dewiswch unrhyw dopin o’r hyn sydd yn eich oergell a'ch cwpwrdd storio. Dyma dri chyfuniad da:

Ham a chaws

2 lwy fwrdd o dopin pitsa neu saws pasta
Unrhyw ham wedi'i sleisio
2 lwy fwrdd o gaws hufen neu gaws caled wedi'i gratio
Cennin syfi wedi’u torri
Mae croeso ichi gyfnewid hwn am berlysiau sych neu ffres eraill sydd gennych eisoes – mae perlysiau sych yn gweithio llawn cystal.

Caws glas a siytni winwns

2 lwy fwrdd o dopin pitsa neu saws pasta
Caws glas, fel Stilton, wedi'i friwsioni
Siytni winwns
Shibwns

Pizzas Groegaidd bach

2 lwy fwrdd o dopin pitsa neu saws pasta
Olewydd du, wedi'u haneru
Tafelli o bupur coch neu domatos bach
Caws Feta
Dail basil (dewisol)

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y gril ymlaen llaw a brownio’r tafelli o fara ar un ochr yn unig a’u torri’n gylchoedd bach gan ddefnyddio torrwr toes 4.5cm.

  2. Cynheswch y ffwrn i 200°C (400°F) marc 6 a rhoi’r cylchoedd ar glawr pobi.

  3. Paratowch y topin o’ch dewis a thynnu unrhyw gaws neu gigoedd dros ben o’r oergell cyn rhoi llwy de fach o dopin pitsa neu saws ar bob cylch; trefnwch y topins o’ch dewis dros y saws.

  4. Pobwch yn y ffwrn am tua 5 munud neu tan fod y pitsas wedi cynhesu drwodd a’r caws yn frown euraidd a’u gweini’n boeth.

  5. I rewi ymlaen llaw: Cwblhewch y rysáit hyd at ddiwedd cam 3 a’u rhewi ar glawr gwastad, yna eu casglu a’u storio mewn cynhwysydd aerglos a’u rhewi am hyd at 3 mis.



    I’w ddefnyddio: Rhowch ar glawr pobi a’u coginio o’r rhewgell am 10 munud ar 200°C (400°F) marc 6.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Coginiwch y pitsas wedi'u rhewi am 10 munud

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.