Roedd Michael a Savanah yn enillwyr ein cystadleuaeth ysgolion ar thema Calan Gaeaf, 'Peidiwch â Bod ag Ofn Eich Sbarion' mewn partneriaeth â Scottish Business in the Community a Good Family Food.

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauToddwch yr olew cnau coco mewn padell fawr a ffrio’r sinsir, y garlleg, y tsili (os am ei ddefnyddio) a’r llysiau am ychydig funudau.
Pan fydd wedi brownio, cracio’r wy i mewn a sgramblo’n gyflym.
Ychwanegwch y reis brown wedi’i goginio, y cyw iâr wedi’i goginio a’r tamari, a’i ffrio am ychydig funudau eraill.
Pan fydd bron yn barod, ychwanegwch y sbigoglys wedi’i dorri a’i gymysgu am 30 eiliad.
Trowch y gwres i ffwrdd ac yna arllwys olew sesame dros y cymysgedd a’i gymysgu a’i weini a’i addurno â chnau cashiw wedi’u torri os ydych yn dymuno.
Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.
Defnyddiwch y cyfrifydd dognauWyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.