Skip page header and navigation

Pysgodyn wedi'i grilio gyda salsa tomato a pherlysiau

Pysgodyn wedi'i grilio gyda salsa tomato a pherlysiau

Mae'r rysáit hon yn defnyddio'r holl jariau o pesto sydd wedi hanner eu bwyta a dresin o'r oergell a'r cypyrddau. Fel gyda'r holl ryseitiau hyn gellir eu chwarae â nhw, eu newid a'u mireinio yn dibynnu ar y cynhwysion sydd gennych wrth law.
Gan Caroline Marson
Yn gweini 6
Amser Paratoi/Coginio: 10-20 munud
Pysgodyn gwyn wedi’i grilio gyda chymysgedd o lysiau mân wedi’u coginio

Cynhwysion

6 ffiled pysgodyn, fel eog, penfras, hadog, brithyll neu facrell
Olew olewydd ar gyfer brwsio

Ar gyfer y salsa tomato a pherlysiau

1 llwy fwrdd o pesto neu ddresin perlysiau dros ben
100g o domatos bach, wedi'u haneru a'u chwarteru
2 lwy fwrdd o berlysiau fel basil, persli neu dil
Mae croeso i chi ddefnyddio perlysiau sych neu ffres eraill sydd gennych eisoes – mae perlysiau cymysg sych yn gweithio cystal
1 ewin garlleg, wedi'i blicio a'i fathru
1 llwy fwrdd o gaprys wedi’u rinsio a’u draenio
3 llwy fwrdd o gaws wedi'i gratio

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y gril ymlaen llaw ac yna brwsio’r clawr pobi gydag olew a threfnu’r ffiled o bysgod wedi’u rhewi dros y top cyn gwasgaru olew a halen a phupur drostynt. Coginiwch nhw am 6 munud ar un ochr, yna eu troi nhw drosodd yn ofalus.

  2. Yn y cyfamser tynnwch unrhyw jariau sydd wedi’u hagor o’r oergell fel pesto neu ddresin perlysiau a’u rhoi mewn dysgl a chymysgu’r tomatos bach, wedi’u torri, y perlysiau ffres wedi’u torri, y garlleg wedi’i fathru a’r caprys.

  3. Gwasgarwch y salsa dros y ffiledi o bysgod a thaenu caws wedi’i gratio arno, cyn eu rhoi yn ôl o dan y gril a pharhau i’w coginio am 6 munud arall nes bod y pysgodyn wedi coginio drwyddo a bod y topin yn byrlymu.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Mae'n well ei fwyta ar unwaith, ond gellir ei storio yn yr oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.