Skip page header and navigation

Nachos Hagis

Nachos Hagis

Mae’r rhain yn berffaith i’w rhannu, mae'r pryd hwn yn gwneud byrbryd gwych ar gyfer parti penwythnos.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 3
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Nachos crimp gyda hagis, caws tawdd, a sleisys o bupur

Cynhwysion

1 bag o greision tortila hallt
Unrhyw hagis sydd gennych dros ben (mae 150-200g yn ddelfrydol)
Dyma rysáit sy’n gweithio'n berffaith gyda chig wedi'i rewi. Edrychwch beth sydd gennych yn eich rhewgell a dadmer cig yn drylwyr cyn coginio.
250g o gaws wedi'i gratio
Salsa, gwacamole a hufen sur
Jalapeños (dewisol)

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cofiwch ddadmer eich cig yn yr oergell a’i ddefnyddio cyn pen 24 awr, neu ei roi yn y microdon ar ‘dadmer’ yn union cyn ei ddefnyddio.

    Mae’r rysáit hon yn gweithio’n llawn cystal gyda chig wedi’i rewi. Gwiriwch beth sydd gennych yn y rhewgell a dadrewi cig yn drylwyr cyn ei goginio. 

  2. Rhowch hanner y tortila mewn dysgl fas a rhoi 1⁄3 o’r hagis a’r caws ar ei ben.

  3. Rhowch o dan gril canolig am tua 5 munud, tan fod y caws yn ffrwtian.

  4. Trefnwch weddill y tortila ar ei ben, gan wasgaru gweddill yr hagis a’r caws ar ben y tortila.

  5. Rhowch y cynhwysion yn ôl o dan y gril am 5 munud arall, neu tan fod y caws yn toddi.

  6. Rhowch lwyaid o salsa, hufen sur, gwacamole a jalapeños ar ben y nachos, os ydych chi’n ei ddefnyddio.

  7. I wneud eich gwacamole eich hun (ar gyfer 2): Stwnsiwch afocado mewn dysgl, yna ychwanegu 1 tomato wedi’i dorri’n fân, hanner winwnsyn coch wedi’i dorri’n fân, 1 tsili wedi’i dorri’n fân (tynnwch yr hadau os ydych chi eisiau gwacamole ysgafn), sudd o hanner a leim, llond llaw o goriander wedi’i dorri’n fân a’u cymysgu gyda’i gilydd  cyn ychwanegu blas gyda halen a phupur a’i addurno gyda darn o  leim ac ychydig o goriander ychwanegol.

  8. I wneud eich salsa eich hun (ar gyfer 2): Cymysgwch 3 tomatos wedi’u deisio, hanner winwnsyn coch wedi’i dorri’n fân, 1 tsili wedi’i dorri’n fân (tynnwch yr hadau os ydych chi eisiau salsa ysgafn) a llond llaw o goriander wedi’i dorri’n fân. Gwasgwch y sudd o hanner leim, halen a phupur a’i addurno gyda choriander ychwanegol. Os oes gennych chi brosesydd bwyd, rhowch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd  tan i chi gael y trwch o’ch dewis.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod
Ble i’w storio
Oergell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon nes ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.