Skip page header and navigation

Pwdinau Efrog heb glwten

Pwdinau Efrog heb glwten

Mae'n ymddangos bod gan y pwdinau Efrog heb glwten hyn gan Becky Excell enw da eu hunain y dyddiau hyn. Pam? Wel, nid yn unig fyddech chi byth yn gwybod eu bod heb glwten, ond maen nhw'n codi yn y ffwrn fel na fyddech chi byth yn credu! Os oes gennych chi wyau a llaeth y mae angen i chi eu defnyddio'n gyflym, mae hon yn ffordd wych o'u trawsnewid yn rhywbeth y mae pawb yn ei garu. Gallwch chi bob amser rewi'r pwdinau Efrog unwaith y byddan nhw wedi oeri, yna'u pobi’n syth o’r rhewgell pan fyddwch chi eu heisiau.
Gan Becky Excell
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 20-30 munud
Tri phwdin Efrog euraidd wedi’u pobi’n berffaith

Cynhwysion

200g o flawd corn
6 wy
300ml o laeth
1 llwy de o rosmari sych
Olew llysiau

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 220°C/200°C (ffan).

  2. Cydiwch mewn tun myffins/teisennau bach ac ychwanegu 1 llwy de o olew i bob un o’r tyllau yn y tun myffins.

  3. Rhowch y tun yn y ffwrn am 10-15 munud nes bod yr olew yn chwilboeth!

  4. Tra bod yr olew yn cynhesu, craciwch 6 wy i mewn i ddysgl gymysgu fawr. Ac yna ychwanegu’r blawd corn a’r rhosmari sych a’u curo gyda’i gilydd tan fod y gymysgedd yn llyfn.

  5. Unwaith y bydd wedi’i gyfuno’n drylwyr, ychwanegwch y llaeth yn raddol, 100ml ar y tro, gan guro am 15 eiliad rhwng bob arllwysiad o laeth.

  6. Arllwyswch y cytew pwdin Efrog i jwg fel ei bod yn haws ei arllwys i mewn i’r tun myffins. Nesaf, mae angen i chi fod yn gyflym! Tynnwch y tun myffins o’r ffwrn ac yna llenwi bob twll gyda’r cymysgedd ar unwaith nes bod pob un ychydig yn llai na ¾ llawn. Dylent hisian ychydig. Byddwch yn gyflym iawn yma a’u cael yn ôl yn y ffwrn cyn gynted â phosibl!

  7. Rhowch y tun yn ôl yn y ffwrn a choginio’r gymysgedd am tua 15-20 munud nes eu bod yn euraidd ac wedi codi. Gwnewch yn siŵr nad ydych byth yn agor drws y ffwrn tra maen nhw’n pobi gan y bydd hyn yn eu difetha! Tynnwch o’r ffwrn ar ôl iddyn nhw goginio a’u gweini gyda chinio rhost blasus a digonedd o grefi heb glwten.

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Pobwch yn y ffwrn yn syth o’r rhewgell nes eu bod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.