Skip page header and navigation

Pryd o datws wedi’u stwnshio â llysiau syml

Pryd o datws wedi’u stwnshio â llysiau syml

Wedi'i weini'n aml â grefi, y rysáit draddodiadol Iseldiraidd hon yw ein ffefryn mawr erbyn hyn o ran gwneud swper gan ddefnyddio un sosban yn unig.
Gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff
Yn gweini 4
Amser Paratoi/Coginio: 30 munud
Dysgl o Stamppot Iseldiraidd cynnes gyda selsig mwg wedi’u torri ar ben y tatws

Cynhwysion

Tua 12 taten canolig eu maint
Nid oes angen eu plicio, dim ond eu golchi’n dda!
2 winwnsyn
Defnyddiwch yr hyn sydd gennych chi. Mae shibwns, cennin neu nionod dodwy yn gweithio'n dda hefyd.
2 lwy fwrdd o olew olewydd, menyn, neu crème fraîche
Bresych, cêl neu unrhyw lysieuyn gwyrdd arall sydd angen ei ddefnyddio
Caws caled i roi blas – Cheddar neu arall
Halen a phupur i roi blas
I weini – selsig mwg, peli cig neu gig moch

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Rysáit

  1. Sleisiwch eich winwns a’ch llysiau gwyrdd yn fras a thorri’r tatws yn ddarnau bach, ac ychwanegu’r cyfan i sosban fawr.

  2. Ychwanegwch ddŵr fel ei fod yn gorchuddio’r llysiau a’u berwi.

  3. Ar ôl berwi, trowch y gwres i lawr a’u mudferwi am 20 munud.

  4. Draeniwch y dŵr a stwnsiwch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd.

  5. Ar y pwynt hwn gallwch chi ffrio’ch cig moch neu selsig yn y sosban gyda’r llysiau neu eu coginio ar wahân a’u gweini ar yr ochr.

  6. Cymysgwch eich menyn, crème fraîche neu olew olewydd.

  7. Ychwanegwch halen, pupur a chaws wedi’i gratio i roi blas.

  8. Cofiwch rewi unrhyw ddognau nad ydych chi’n eu bwyta y tro hwn i’w harbed rhag mynd i’r bin. Dyma ffordd wych o arbed amser ar gyfer pryd o fwyd syml ar gyfer diwrnod arall pan fyddwch efallai’n brysur.

    Dylech ddadrewi dognau wedi’u rhewi yn yr oergell a’u defnyddio o fewn 24 awr, neu gallech eu dadrewi yn y microdon ar ‘defrost’ yn syth cyn eu defnyddio. 

Manteisio i’r eithaf ar eich bwyd dros ben
Storio mewn
Cynhwysydd aerglos
Amser
Oergell am 2 ddiwrnod, rhewgell 3-6 mis
Ble i’w storio
Oergell neu rewgell
Aildwymo
Dylid ei ail gynhesu yn y ffwrn neu ficrodon tan ei fod yn chwilboeth. Ail-gynheswch unwaith yn unig.

Dognau delfrydol

Defnyddiwch ein cyfrifydd dognau - dyma ffordd syml a chyflym o wirio faint o'r bwyd hwn i'w weini fesul pryd bwyd.

Defnyddiwch y cyfrifydd dognau

Os gwnaethoch fwynhau’r rysáit hon, rhowch gynnig ar

Y tu mewn i oergell gyda rhywun yn newid y deial tymheredd ynddi

Cadwch eich oergell ar 5°C neu’n oerach

Wyddoch chi y gallai newid tymheredd eich oergell helpu i gadw eich bwyd am dri diwrnod yn hirach nag arfer? Dyna ichi lwyddiant ar gyfer cadw eich bwyd yn ffres yn hirach. Gall ein teclyn tymheredd oergell eich helpu i ddysgu sut i newid y tymheredd ar eich brand oergell penodol chi.